Newyddion S4C

Y Fonesig Maggie Smith wedi marw yn 89 oed

27/09/2024
Maggie Smith

Mae'r Fonesig Maggie Smith wedi marw yn yr ysbyty yn 89 oed, meddai ei meibion ​​Chris Larkin a Toby Stephens.

Roedd yn fwyaf enwog yn y blynyddoedd diwethaf am chwarae rhan Violet Crawley yn Downton Abbey a Minerva McGonagall yn y ffilmiau Harry Potter.

Mewn datganiad fe ddywedodd ei theulu: “Gyda thristwch mawr mae’n rhaid i ni gyhoeddi marwolaeth y Fonesig Maggie Smith.

“Bu farw’n dawel yn yr ysbyty yn gynnar y bore yma, dydd Gwener 27 Medi.

“Roedd hi'n berson hynod breifat, ac yng nghwmni ffrindiau a theulu ar y diwedd. Mae'n gadael dau fab a phump o wyrion cariadus sydd wedi torri eu calonnau wrthi golli mam a mam-gu ryfeddol.

“Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r staff gwych yn Ysbyty Chelsea a Westminster am eu gofal a’u caredigrwydd diflino yn ystod ei dyddiau olaf.

“Rydym yn diolch i chi am eich holl negeseuon caredig a chefnogaeth ac yn gofyn i chi barchu ein preifatrwydd ar hyn o bryd.”

'Trysori'

Dywedodd yr actor Hugh Bonneville, oedd yn chwarae rhan mab cymeriad y Fonesig Maggie yn Downton Abbey: “Bydd unrhyw un sydd erioed wedi rhannu golygfa gyda Maggie yn gwybod fod ganddi lygad craff, ffraethineb a dawn aruthrol.

“Diolch byth fe fydd yn byw ymlaen mewn cymaint o berfformiadau godidog ar y sgrin.

“Mae fy nghydymdeimlad i gyda'i bechgyn a’r teulu ehangach.”

Dywedodd y Prif Weinidog bod Maggie Smith yn “drysor cenedlaethol”.

“Cyflwynodd y Fonesig Maggie Smith ni i fydoedd newydd gyda’r straeon dirifedi yn ystod ei gyrfa," meddai.

“Roedd hi’n annwyl i nifer, gan ddod yn drysor cenedlaethol go iawn ac fe fydd ei gwaith yn cael ei drysori am genedlaethau i ddod.

“Mae ein meddyliau gyda’i theulu a’i hanwyliaid. Boed iddi orffwys mewn heddwch.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.