Endometriosis: 'Rŵan mae hi’n rhy hwyr i gael plant’
Mae menyw sy'n dioddef o gyflwr endometriosis yn dweud ei bod “wedi ei methu” gan feddygon y GIG nad oedd wedi rhoi gwybod iddi am y cysylltiad rhwng y cyflwr ag anffrwythlondeb.
Mae Bethan Jenkins, 39 o Rondda Cynon Taf, wedi bod yn dioddef o'r cyflwr gynaecolegol, sy'n gallu achosi poen difrifol a mislif trwm ers ei harddegau cynnar.
Dywedodd Bethan wrth Newyddion S4C na chafodd ddiagnosis o endometriosis tan 2021 a'i bod wedi cael gwybod yn ddiweddar ei bod yn anffrwythlon.
Mae'r cynhyrchydd teledu bellach yn galw ar feddygon i roi gwybod i fenywod am y cysylltiad rhwng endometriosis ag anffrwythlondeb cyn gynted â phosibl, er mwyn rhoi'r cyfle iddyn nhw gadw eu ffrwythlondeb ar gyfer y dyfodol.
“Ma' fe wir wedi torri fy nghalon i achos fi’n teimlo fel bod rhywbeth sy’n digwydd yn naturiol i gymaint o bobl just ddim yn bosib i fi,” meddai.
Daw cyfweliad Ms Jenkins wrth i elusen Endometriosis UK ymgyrchu i'w gwneud yn bosib i fenywod sy'n dioddef o'r cyflwr rewi eu hwyau am ddim.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Rhondda Cynon Taf eu bod wedi cysylltu â Ms Jenkins ac wedi “mynd i’r afael ag unrhyw bryderon am ei gofal”.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn datblygu cynllun arbennig sy'n canolbwyntio ar “ystod o faterion iechyd menywod”, gan gynnwys iechyd mislif.
‘Maen nhw wedi methu fi’
Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe sy'n debyg i leinin y groth yn tyfu mewn mannau eraill o’r corff, fel yr organau atgenhedlu, y coluddyn a’r bledren.
Mae’n gyflwr sy’n effeithio ar un ym mhob 10 menyw yn y DU, gan achosi poen difrifol, mislif trwm – ac, mewn rhai achosion, anffrwythlondeb.
Yn ôl Anthony Griffiths, Gynaecolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae’r cyflwr yn gallu “dinistrio” ffrwythlondeb.
“Mae traean o bobl gydag endometriosis yn gweld gostyngiad sylweddol mewn ffrwythlondeb oherwydd ei fod yn gallu blocio’r tiwbiau ffalopaidd,” meddai.
“Os ydych chi’n gwneud IVF ar bobl – triniaeth nad oes angen tiwbiau ffalopaidd ar ei chyfer – rydyn ni’n gwybod bod ansawdd yr wy yn cael ei leihau gan bresenoldeb endometriosis.
“A hyd yn oed os ydych chi’n meddwl am ddefnyddio ŵy rhoddwr (donor egg), rydyn ni’n gwybod bod endometriosis yn lleihau mewnblannu hefyd. Felly mae wir yn dinistrio ffrwythlondeb.”
Mae Mr Griffiths yn un o'r ychydig arbenigwyr endometriosis yng Nghymru, ac mae'n darparu triniaeth i gleifion y GIG a chleifion preifat.
Dywedodd fod arbenigwyr yn y maes yn ymwybodol o “effaith andwyol” endometriosis ar ffrwythlondeb ers dros 20 mlynedd, ond nad yw hynny bob amser yn wir mewn meysydd meddygol eraill, yn enwedig gofal sylfaenol.
Mae’n dweud mai diffyg gwybodaeth am y cyflwr yw’r broblem – ac mae Ms Jenkins wedi profi hyn ei hun.
Er iddi fynd yn ôl ac ymlaen at feddygon teulu’r GIG, dywedodd nad oedd yr un ohonyn nhw wedi sôn am y cysylltiad rhwng ei symptomau ag anffrwythlondeb.
“Fi’n teimlo bod nhw wedi methu fi achos fi’n 40 flwyddyn nesaf a does ‘na ddim byd dw i’n gallu neud am y peth,” meddai Ms Jenkins, sydd hefyd wedi cael gwybod na fyddai triniaeth IVF yn debygol o weithio, gan fod ei chronfa wyau’n rhy isel a’i lefelau o’r hormon ysgogi ffoliglau’n rhy uchel.
Mae Ms Jenkins bellach yn ystyried cael hysterectomi, gan bod y meinweoedd croen yn ei groth bellach wedi dechrau tyfu o fewn wal cyhyrol yr organ.
'Neb wedi cael y sgyrsiau efo fi'n gynt'
Yn mynd law yn llaw gyda’r diffyg gwybodaeth mae’r amseroedd aros am ddiagnosis yn gallu bod yn hir.
Ers y pandemig, mae ymchwil gan elusen Endometriosis UK yn awgrymu bod amseroedd aros am ddiagnosis wedi cynyddu ar draws y DU.
Ond cleifion yng Nghymru oedd yn wynebu’r amseroedd aros hiraf, gan ddisgwyl naw mlynedd ac 11 mis ar gyfartaledd – bron i ddegawd.
Dywedodd Ms Jenkins nad oedd meddygon wedi ei chymryd hi o ddifrif: "Mae meddygon wedi dweud wrtha i bod gen i pain threshold isel, bod periods i fod i frifo, a dyna pam mae wedi cymryd 15 mlynedd a dwy lawdriniaeth breifat i mi gael diagnosis.
“Er bo fin mynd nôl a mlaen yn dweud bod endometriosis 'da fi, odda nhw byth yn cysylltu’r dots a meddwl, mae’n amlwg bod rhywbeth mawr yn bod 'da hi.”
Mae hi bellach yn galw ar feddygon – boed yn feddygon teulu neu’n arbenigwyr – i roi gwybod i fenywod am y cysylltiad rhwng endometriosis ac anffrwythlondeb cyn gynted â phosibl, er mwyn rhoi'r cyfle iddyn nhw gadw eu ffrwythlondeb ar gyfer y dyfodol.
“Dw i’n teimlo’n grac bod neb ‘di cael y sgyrsiau ‘ma efo fi’n gynt," meddai. “Mae cyfrifoldeb ar feddygon i ofyn: Ydych chi moyn bod yn rhiant yn y dyfodol?’
“Os fysa rhywun wedi dweud wrtha i flynyddoedd yn ôl bo’ fi’n gallu rhewi fy wyau, bydde ni di neud e bryd hynny, ond nath hwnna ddim digwydd.”
Nid oes modd i fenywod rewi wyau am ddim o dan y GIG oni bai eu bod nhw’n cael triniaeth ar gyfer canser.
Ond gyda’r broses yn costio rhwng £7,000 ac £8,000 ar gyfartaledd, mae elusen endometriosis flaenllaw yn ceisio newid hynny.
Dywedodd Faye Farthing ar ran Endometriosis UK bod yr elusen yn “galw ar lywodraethau i sicrhau bod y rhai sydd ag endometriosis yn cael mynediad at driniaeth gan y GIG ar gyfer cadw ffrwythlondeb”, ac yn cael “cydraddoldeb â chyflyrau eraill” wrth gael y driniaeth honno.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod" bod endometriosis yn gallu effeithio ar ffrwythlondeb a'u bod wedi ariannu gwefan arbennig o'r enw Endometriosis Cymru er mwyn helpu menywod i ddeall y cyflwr yn well.
Ychwanegodd y llefarydd mai meddygon sydd yn y "sefyllfa orau" i benderfynu ar opsiynau triniaeth ffrwythlondeb ond bod modd i fenywod gael dau gylch o IVF am ddim o dan y GIG "lle mae angen clinigol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU ei fod yn "annerbyniol" nad yw cymaint o fenywod yn cael y gofal gynaecoleg sydd ei angen arnynt a bod "angen gwneud mwy" i gefnogi menywod ag endometriosis, gyda Chynllun Iechyd Deng Mlynedd i ddiwygio'r GIG eisoes ar waith.
Mae Ms Jenkins eisiau gweld gwell mynediad at driniaethau ffrwythlondeb yn y dyfodol.
Ond am y tro, mae hi’n annog y rhai sy'n poeni am fethu â chael plant i ddechrau’r sgwrs.
“Os mae rhywun yn yr un cwch a fi blynyddoedd nôl yn trio cael diagnosis o endometriosis, mae’n bwysig bod nhw’n cael y sgwrs ‘na am ffrwythlondeb a rhewi wyau, achos fi ddim eisiau i neb deimlo fel fi wedi dros yr wythnosau diwethaf ‘ma.”
Bwrdd iechyd yn cynnig ‘archwilio’n fanylach’
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Rydym wedi bod mewn cysylltiad â Ms Jenkins ac wedi gallu mynd i’r afael ag unrhyw bryderon am ei gofal yn uniongyrchol. Ond, os oes angen, rydym yn ei hannog i gysylltu ymhellach â'n tîm pryderon i archwilio'r mater hwn yn fanylach.
“Mae cefnogi a gofalu am fenywod sydd wedi cael diagnosis o endometriosis yn ganolog i waith ein hyb iechyd menywod arbenigol, sydd yn ein bwrdd iechyd.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd “gymryd camau cadarnhaol i wella profiadau a chanlyniadau menywod”.
Ychwanegodd fod iechyd menywod yn parhau i fod yn “flaenoriaeth” i’r Llywodraeth: “Eleni fe wnaethom benodi’r arweinydd clinigol cyntaf erioed ar gyfer iechyd menywod a sefydlu Rhwydwaith Iechyd Menywod sy’n datblygu cynllun iechyd menywod 10 mlynedd i Gymru.
“Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ystod o faterion iechyd menywod, gan gynnwys iechyd mislif ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2024.”