Bachgen o Gaernarfon yn yr ysbyty ar ôl dioddef ataliad ar y galon mewn gêm pêl-fasged
Mae bachgen yn ei arddegau o Wynedd "yn gwella'n rhyfeddol" yn yr ysbyty ar ôl dioddef ataliad ar y galon yn ystod gêm pêl-fasged.
Roedd Sam Booth, 16 oed o Gaernarfon, yn chwarae i dîm o dan 18 oed Cheshire Phoenix ddydd Sadwrn diwethaf.
Dywedodd y tîm ei fod wedi cael ataliad ar y galon yn ystod ail chwarter eu gêm i ffwrdd yn Lerpwl.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw a'i gludo i Ysbyty Broadgreen yn y ddinas.
Ers hynny mae wedi cael ei drosglwyddo i ganolfan calon arbenigol yn Ysbyty Wythenshawe ym Manceinion.
'Gwellhad rhyfeddol'
Mewn datganiad ar gyfrif Facebook Cheshire Phoenix, dywedodd ei rieni, Neil a Sarah Booth, ei fod yn "gwella'n dda iawn".
"Mae Sam yn gwella'n dda iawn, nid yw bellach angen unrhyw gymorth i'w gorff weithredu'n normal," medden nhw.
"Mae o'n gallu siarad, mae ei lygaid yn agored ac yn ymwybodol o'i amgylchedd, mae'n ein hadnabod ac yn gwybod ein henwau."
Er bod Sam bellach allan o'i wely ac yn eistedd mewn cadair olwyn, dywedodd ei rieni ei fod yn awyddus i gael gwybod beth ddigwyddodd iddo.
"Does ganddo ddim cof o beth ddigwyddodd, rydym yn ateb ei gwestiynau i geisio rhoi darlun gwell iddo ond yn araf bach i roi amser iddo ddeall," medden nhw.
"Gall sefyll gydag ychydig o gynhaliaeth a symud ei fysedd, ei ddwylo a'i goesau, felly gydag amser bydd yn gorfforol yn union fel yr oedd.
"Hyd yn hyn, oherwydd ei oedran, ei ffitrwydd a’i gryfder, mae’n gwella’n rhyfeddol o ystyried y sioc enfawr y mae ei gorff wedi’i gael."
Ychwanegodd ei rieni bod yr holl negeseuon o gefnogaeth wedi eu "syfrdanu".