David Hurn: Y ffotograffydd 90 oed ar dynnu llun y Beatles a chefnogwyr Taylor Swift
Mae un o ffotograffwyr mwyaf dylanwadol Prydain wedi bod yn edrych yn ôl ar ei yrfa hir a llwyddiannus, yn datgelu sut mae’n tynnu’r llun perffaith.
Mae David Hurn, 90, wedi tynnu lluniau o fandiau enfawr fel The Beatles, ac wedi dal eiliadau hanesyddol, fel angladd Winston Churchill a thrychineb Aberfan.
Dywedodd David Hurn: “Mae ffotograffiaeth yn syml iawn – rydych chi’n dechrau yn y lle iawn, pwyso’r botwm ar yr amser iawn, ac mae gennych chi lun.
“Mae, mewn theori, mor syml â hynny. Ond mae'n rhaid i chi fod yn y lle iawn.
“Yna mae'n rhaid i chi arsylwi ar yr hyn sy'n digwydd... ac ar ôl amser rydych chi'n ei godi'n reddfol.”
Dywedodd David bod ei ddidordeb mewn ffotograffiaeth wedi dechrau’n gyntaf pan oedd yn y fyddin.
“Gwelais lun yng nghylchgrawn o’r enw Picture Post, o swyddog o fyddin Rwsia yn prynu het i’w wraig mewn siop adrannol ym Moscow,” meddai.
“Fe wnaeth i mi grio, oherwydd roedd fy nhad wedi bod i ffwrdd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a’r peth cyntaf wnaeth o pan ddychwelodd i’r DU oedd mynd â mam i Howells [siop adrannol] yng Nghaerdydd, a phrynu het iddi.
“Gwelais yn sydyn y gallai ffotograff greu emosiwn enfawr, ond gallai hefyd wrthweithio propaganda.”
Yn 1964, tynnodd rai o'i luniau mwyaf eiconig gyda’r Beatles.
Gofynnwyd iddo dynnu llun o’r band wrth iddyn nhw ffilmio A Hard Day’s Night, a dywedodd wrth y cyfarwyddwr: “Ar yr amod nad oes rhaid i mi byth ofyn iddyn nhw [y band] wneud dim byd.
“Doedd dim pwynt gwneud y llun gosod hwnnw, oherwydd fe fyddai 400 o ffotograffwyr eraill drwy’r amser yn saethu’r un llun.”
Ar y pryd, roedd yn bwysig i David “geisio darganfod, yn weledol, y cysylltiad hwnnw rhwng y cefnogwyr a’r Beatles”.
“Fe wnes i eu cael nhw, yn amlwg, yn anhygoel o dalentog,” meddai.
“Roeddwn i’n synnu pa mor benderfynol oedden nhw i wneud yr hyn roedden nhw eisiau ei wneud – oedd yn dda oherwydd fe wnes i fwynhau hynny.”
Ond nid dyma oedd tro olaf David i ymateb i sêr mawr trwy gydio yn ei gamera.
Llwyddodd hefyd i ddal y ‘buzz’ o amgylch cyngerdd Taylor Swift yng Nghaerdydd yn gynharach eleni.
“Fe ddigwyddodd oherwydd fy mod i mewn oedran lle rydw i’n gwneud pethau gwirion bron allan o sbeit,” meddai.
“Darllenais fod Taylor Swift wedi dod ag £1biliwn i mewn i’r economi… a meddyliais, ‘wel, dwi ddim eisiau tynnu llun ohoni, ac yn sicr dydw i ddim eisiau mynd i’r cyngerdd’.
“Ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n hwyl tynnu lluniau o’r cefnogwyr.”
'Pererindod grefyddol'
Er i filoedd o Swifties wneud eu ffordd i Stadiwm Principality ym mis Mehefin eleni, roedden nhw ymhell o fod yn stwrllyd, yn ôl David.
“Roeddech chi yno gyda 50,000 o bobl, a hwn oedd y lle mwyaf heddychlon y gallech fod," meddai.
“Roedd fel bod ar bererindod grefyddol, wyddoch chi?”
Ar ôl blynyddoedd o dynnu lluniau ar draws y byd, mae llawer o waith David bellach yn nes adref yn Nhyndyrn, lle mae wedi byw ers dros 50 mlynedd.
“Rydw i wedi dod, fwy neu lai, yn ffotograffydd pentref - ac rydw i wrth fy modd,” meddai.
“Felly, os yw Johnny’n cael parti pen-blwydd y penwythnos hwn, rydw i yno fel shot, ac rwy’n gymryd o, o ddifrif, fel pe bawn i’n gweithio i Life Magazine…
“Rwy’n meddwl ei fod o’n beth mor rhydd, mor hyfryd. Rwyf wrth fy modd pan fydd pobl yn dod at ei gilydd ac yn cymdeithasu.”