Marwolaeth Wrecsam: Teyrnged teulu i ddyn ifanc
Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn digwyddiad yn Rhosymedre, Wrecsam, nos Sul wedi rhoi teyrnged iddo.
Mae'r heddlu wedi arestio llanc 18 oed ar amheuaeth o lofruddio Kyle Patrick Walley.
Mae ei deulu wedi ei ddisgrifio fel bachgen gofalgar a charedig.
"Kyle, dim ond 19 oed oeddet ti, gyda dy fywyd cyfan o dy flaen, ein bachgen ni; oeddet ti'n ofalgar, yn gariadus ac yn garedig. Roeddet ti'n gwneud i ni chwerthin, gwneud i ni wenu, ac roedd gen ti gymaint i edrych ymlaen ato: prentisiaeth coleg ym mis Medi a chymaint mwy.
"Bydd cymaint yn gweld dy eisiau, ac roedd gen ti'r wên fwyaf a hiwmor; yr holl gariad yn y byd gan Mam, Dad, Lee, Johnathan, Caitlin, Nanna, Aunty a phawb oedd yn dy adnabod di."
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Alun Oldfield: “Hoffwn gydymdeimlo â theulu Kyle ar yr adeg hynod anodd hon.
“Mae'r amgylchiadau o amgylch y digwyddiad hwn wedi bod yn destun dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym yn ymwybodol y gallai hyn fod wedi effeithio ar lawer o bobl ifanc. Mae Swyddogion Cyswllt Ysgol a'r Tîm Plismona Cymdogaeth yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yng Nghyngor Wrecsam i gynnig y gefnogaeth a'r sicrwydd priodol i'r gymuned leol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae Gofal Cymdeithasol Plant a'r adran Addysg yn Wrecsam wedi trafod yr angen i gefnogi unrhyw blant a phobl ifanc a allai gael eu heffeithio gan y digwyddiad trasig hwn. Bydd staff addysg a gofal cymdeithasol yn cynnig cefnogaeth emosiynol i blant neu bobl ifanc yn ôl yr angen.”