Newyddion S4C

Syr Brian May'n ymddiswyddo o'i rôl gyda'r RSPCA

Brian May

Mae Syr Brian May wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo o'i rôl fel is-lywydd yr RSPCA.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol nos Iau, dywedodd gitarydd y band Queen a’r ymgyrchydd hawliau anifeiliaid ei fod yn gadael yr RSPCA yn sgil safonau lles anifeiliaid “gwarthus” mewn ffermydd sy'n rhan o'u cynllun safonau bwyd.

Mae’r label RSPCA Assured sy’n nodi bod cig, pysgod, wyau a chynhyrchion llaeth wedi’u cynhyrchu i safonau llym sy’n rhagori ar ofynion cyfreithiol y DU yn cael ei adolygu gan y sefydliad lles anifeiliaid.

Mae bron i 4,000 o ffermydd yn cymryd rhan yn y cynllun, sy'n golygu y gallant ddefnyddio'r label i hysbysu cwsmeriaid am eu safonau lles anifeiliaid uwch.

Dywedodd Syr Brian yn ei lythyr: “Gyda thristwch dwys y mae’n rhaid i mi heddiw gynnig fy ymddiswyddiad fel is-lywydd yr RSPCA.

“Rydych wedi rhoi gwybod i mi drwy’r Save Me Trust am gwynion sydd wedi’u lefelu yn ystod y misoedd diwethaf gyda'r RSPCA ynghylch safonau gwarthus o ran lles anifeiliaid ar ffermydd sy’n aelodau o gynllun Sicrwydd yr RSPCA.

“Rwyf yn deall bod y RSPCA angen amser i werthuso’r dystiolaeth a gwneud penderfyniadau ar gamau i’w cymryd. Ond wrth i fwy a mwy o dystiolaeth ddamniol ddod i’r amlwg, dwi’n gweld ymateb yr RSPCA yn gwbl annigonol.”

'Torcalonnus'

Dywedodd Syr Brian fod goruchwyliaeth y cynllun wedi “methu” a bod angen ei atal.

“Rwy’n llwyr gydnabod y gwaith gwych y mae’r RSPCA wedi’i wneud dros y blynyddoedd, ac mae’n dorcalonnus i mi dynnu fy nghefnogaeth yn ôl o’r gwaith sy'n cael ei gyflawni gan gynifer o arwyr ar lawr gwlad o ddydd i ddydd.”

Ychwanegodd ei fod yn deall y “perygl o wanhau’r RSPCA, a chwarae i ddwylo’r sefydliadau sydd o blaid creulondeb”.

Fodd bynnag, ni all “yn gydwybodol aros yn un o arweinwyr y sefydliad tra bod yr RSCPA yn osgoi ei gyfrifoldeb i roi trefn ar bethau”.

Ymhlith yr honiadau mae gorlenwi, hylendid gwael, ac mewn rhai achosion, camdrin da byw yn gorfforol gan weithwyr fferm.

Fe wnaeth y cyflwynydd teledu Chris Packham, arweinydd yr RSPCA, hefyd alw am atal y cynllun.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA eu bod wedi bod yn “falch iawn i gael Brian May, ymgyrchydd angerddol dros anifeiliaid, fel ein his-lywydd ac rydym yn rhannu ei awydd i greu byd gwell i bob anifail”, ond ychwanegodd fod ganddyn nhw “farnau gwahanol ar y ffordd orau i fynd i’r afael â’r her gymhleth hon”.

Ychwanegodd eu bod eisiau “rhoi hyder” i gefnogwyr a phartneriaid RSPCA Assured bod y cynllun yn parhau i “sicrhau gwell lles nag arferion ffermio safonol”.

“Felly, rydym wedi lansio adolygiad annibynnol o RSPCA Assured, sydd wedi’i gynnal dros sawl mis, gan gynnwys ymweliadau dirybudd â mwy na 200 o aelodau’r cynllun. Unwaith y byddwn wedi dadansoddi ein canfyddiadau, byddwn yn cymryd unrhyw gamau cadarn angenrheidiol.”

Daw ymddiswyddiad Syr Brian o'r RSPCA yn dilyn ei raglen ddogfen ddadleuol ar y BBC am y diciâu.

Roedd yn cwestiynu’r syniad fod moch daear yn lledaenu'r diciâu mewn gwartheg, gan awgrymu y gallai gwartheg fod yn pasio’r haint ymhlith eu hunain.

Mae'r rhaglen wedi ei beirniadu gan undebau amaeth sydd wedi cwestiynu dilysrwydd y data yr oedd yn ei defnyddio.

Llun: Wochit

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.