Newyddion S4C

Rhybudd i rieni wedi difrod troseddol yn y Bermo

27/09/2024
Heddlu
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud bod swyddogion yn pryderu am ragor o adroddiadau am ddifrod troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y Bermo yng Ngwynedd.
 
 Mae pobl ifanc wedi cael eu gweld yn curo ac yn cicio'n dreisgar ar ddrysau yn y dref cyn rhedeg i ffwrdd. 
 
Mewn neges ar y cyfnryngau cymdeithasol am yr eilwaith mewn ychydig ddyddiau, dywedodd y llu: "Efallai eich bod chi'n meddwl ei fod yn craze TikTok diniwed ond mae difrodi eiddo a brawychu trigolion yn gwbl annerbyniol.
 
"Mae ein Tîm Cymuned Heddlu yn y Bermo wrthi'n edrych trwy Luniau Teledu Cylch Cyfyng a Ring Doorbell i nodi unrhyw bobl ifanc dan sylw.
 
"Byddem hefyd yn annog pob rhiant i chwarae eu rhan drwy sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant a gyda pwy y maent yn treulio amser!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.