HS2: Cymru heb gael 'chwarae teg' medd Eluned Morgan
Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan wedi dweud nad yw Cymru wedi cael “chwarae teg” o ran ariannu'r rheilffyrdd.
Mae Ms Morgan yn dweud ei bod eisoes wedi trafod y lefel o arian mae Cymru wedi ei dderbyn yn sgil y prosiect rheilffordd HS2 yn Lloegr gyda’r Canghellor Rachel Reeves yn ystod Cynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos yma.
Dywedodd y byddai yn “brwydro” er mwyn cynnal trafodaeth bellach, gan ddweud bod y Canghellor yn “y broses o wrando” ar hyn o bryd.
Mae HS2 wedi bod yn destun dadlau gwleidyddol ers sawl blwyddyn wedi iddo gael ei ddynodi yn brosiect ar gyfer ‘Cymru a Lloegr’, er nad oes unrhyw ran o’r cynllun wedi ei leoli yng Nghymru.
Mae Plaid Cymru wedi dadlau y dylai Cymru cael £4 biliwn o arian ychwanegol, fel ‘cyfran deg’ o’r arian sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y prosiect, a hynny yn seiliedig ar fformiwla Barnett.
Byddai hynny yn dod a Chymru yn ‘gyfartal’ â’r Alban a Gogledd Iwerddon o ran yr arian a dderbyniwyd o HS2, medd y blaid.
Dywedodd Ms Morgan wrth asiantaeth newyddion PA: “Wel, mae’n bendant yn fater nad ydym wedi rhoi’r gorau iddo, mater a godais gyda’r Canghellor.
“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod, o ran rheilffyrdd, ein bod yn teimlo nad yw Cymru wedi cael chwarae teg a bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd y sgwrs honno’n datblygu.
“Ond mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud ymrwymiadau enfawr i wella isadeiledd ac yn arbennig datblygiadau rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Felly eto, dyna Blaid Lafur y DU yn helpu yn uniongyrchol, mewn ffordd na ddigwyddodd o dan y Torïaid.
Ychwanegodd: “Mae yna lawer o bobl yn brwydro i gael at ei drws, a byddaf i fel Prif Weinidog yn gwneud hynny hefyd.”
Fis yma, fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth alw ar Eluned Morgan i ofyn i’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer gyflwyno model newydd i ddisodli fformiwla Barnett er mwyn cyfrifo cyllideb Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ms Morgan ei bod yn “cael sgyrsiau” ar sut mae Cymru’n cael ei hariannu, gan ychwanegu bod “system ariannu deg” yn hanfodol ac y byddai’r gallu i fenthyg arian yn “fuddiannol” i Lywodraeth Cymru.
Siaradwyr Cymraeg
Wrth drafod cynllun y Llywodraeth i geisio cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, dywedodd Ms Morgan fod bod yn “anfeirniadol am ansawdd a safon Cymraeg rhywun yn wirioneddol bwysig”.
Dywedodd Ms Morgan, a gafodd ei magu yn Nhrelái, Caerdydd, fod “bron pawb” y mae’n nabod a aeth i ysgol Gymraeg yn teimlo “oni bai eich bod yn treiglo’n gywir, yn siarad mewn ffordd benodol iawn” nad yw’n ddigon da.
“Rwy’n meddwl bod angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r rhyddid i bobl roi cynnig arni, ac mae unrhyw fath o ymgais yn ymgais dda, ac i gefnogi a chefnogi hynny,” ychwanegodd.
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae’r llywodraeth newydd wedi ymrwymo i ailsefydlu perthnasau gyda’r llywodraethau datganoledig a bydd yn gweithio’n agos gyda nhw ar reilffyrdd yng Nghymru.
“Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am isadeiledd rheilffyrdd trwm ar draws Cymru a Lloegr, gan wella cysylltedd trafnidiaeth a gwasanaethau i bobl.
“Mae hynny’n golygu bod Llywodraeth y DU yn gwario arian ar hyn yng Nghymru yn hytrach nag ariannu Llywodraeth Cymru i wneud hynny.”