Gwaith i adfer Cors Crymlyn yng nghanol dinas Abertawe
Gwaith i adfer Cors Crymlyn yng nghanol dinas Abertawe
O fewn tafliad carreg i brysurdeb a sŵn canol dinas Abertawe mae Gwarchodfa Natur Cors Crymlyn. Hafan brydferth a thawel.
Mae'r gwelyau hesg a'r corslwyni yma yn gartref i blanhigion prin adar a phryfed.
Mae hefyd yn un o'r corsydd crynedig sy'n weddill yng Nghymru lle mae'r gwlypter yn crynu dan draed.
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i adfer mawndiroedd wedi torri pob targed ond mae adfer y safle yma'n heriol.
"Mae mwy a mwy o ddŵr yn dod ar y safle. 'Dan ni'n gweld lot o'r brwyn yn cymryd drosodd, lot o blanhigion cyffredin yn dechrau diflannu.
"Ni'n gorfod lleihau lefel y dŵr, trio cael dŵr oddi ar y gors. Mae'n gam yn y cyfeiriad iawn."
Mae gwarchod y corsydd yn bwysig, nid yn unig o ran bioamrywiaeth ond hefyd am resymau economaidd a thwristiaeth.
"Mae'n unigryw. Nid achos y bywyd gwyllt, er bod 'na gyfoeth yma. Mae'n un o drysorau byd natur Cymru.
"Ond, achos bod hi reit ar drothwy drws Abertawe. Abertawe un ffordd, Aberafan, Castell-nedd. Cannoedd o filoedd o bobl.
"O'r bobl 'na i gyd, fentra i mai llond llaw sydd wedi bod yma."
Mae hen hanes yr ardal yn creu problemau wrth adfer y gors. Mae olion bomiau'r Almaenwyr nath dargedu hen burfa olew Llandarcy gerllaw, dal yn y tir.
"Yn yr Ail Ryfel Byd, death y Luftwaffe i dropio'r bomiau ar y burfa olew ac mae siawns mawr nawr bod bomiau yn y mawndir."
Mae'r gors yma'n gynefin pwysig i fywyd gwyllt ac yn allweddol wrth storio carbon a lleddfu effaith newid hinsawdd.
Os yw'r mawndir mewn cyflwr gwael, mae'n stori wahanol. Bydd nwyon tŷ gwydr yn cael eu gollwng o'r safle. Mae'r ardal yma'n bwysig o ran hanes.
Mae'n fwy 'na hynny, mae'n bwysig o ran y dyfodol.
Mae'r mawndir eang yma ar gyrion Abertawe yn hanfodol yn yr ymdrech i daclo newid hinsawdd.
Mae peiriannau trwm nawr yn agor y ffosydd a chlirio'r tyfiant.
Y nod yw sicrhau bydd y gors yma yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt i'r dyfodol, ac ar yr un pryd yn rhoi cipolwg i ni ar ein hanes a'n cefndir amgylcheddol.