
Galw am barchu traethau Cymru

Galw am barchu traethau Cymru
Mae Mali James yn syrffiwr brwd ac wedi bod yn dod i draeth Llangennith ers yn blentyn, ond mae wedi gweld cynnydd mewn plastig sy’n casglu ar y lan.
Wrth nodi Wythnos Traethau Cymru S4C mae wedi galw ar bobl i barchu'r traethau.
"Tra'n syffio fi di bod fi di gweld masgs jyst yn floatio heibio," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Fi di gweld e'n gwaethygu dros y blynyddoedd.
"Pan o'n i'n ifancach gallwn i dod lawr fan hyn a byddwn i ddim yn hyd yn oed yn gweld unrhyw ysbwriel o gwbl.
"A nawr ni'n dod lawr a chi'n gallu gweld ar linell llanw fan hyn ma' lot o ysbwriel di dod mewn gan y tonnau, ond hefyd ma' pobl yn gadael ysbwriel ar y traeth."
Mae rhai darnau plastig i'w gweld yn glir, ond beth sydd yn poeni arbenigwyr yw’r gronynnau bach o blastig - nano-bastigiau sydd ddim mor hawdd i’w gweld.
Mae pryder cynyddol bod y gronynnau yn casglu yn y tywod, yn arnofio yn y dŵr a hyd yn oed yn cael eu cario yn y gwynt.
"Yn anffodus mae e ar y traeth ac yn effeithio anifeiliaid hefyd," ychwanegodd Ms James.
"Ma' lot o blastig a microplastics yn cael ei ffeindio mewn pysgod, a ni'n bwyta'r pysgod 'na so ma' lot o'r plastig probably yn ein cyrff ni hefyd."
Niwed i iechyd

Mae Nia Jones, wedi gwneud ymchwil ôl-raddedig ar nano-blastigiau ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’n pryderu am yr effaith y gallant gael ar iechyd pobl.
"Iechyd pobl yw un o'r pryderon mwyaf pan ni'n siarad am microplastics, ar y funud does dim digon o ymchwil i ddangos bod microplastics yn niweidiol i iechyd pobl," dywedodd Ms Jones wrth raglen Newyddion S4C.
"'Da ni'n gwybod fod hi'n bosib cael gwahanol fathau o microplastics, y siâp a'r maint, ond hefyd mae llawer o ffynonellau gwahanol hefyd.
“Mae microplastics wedi eu darganfod ym maw pobl ac hefyd o fewn placenta menywod.”