Newyddion S4C

'Beio fy hun': Dioddefwraig camdriniaeth ddomestig yn galw am fwy o adnoddau i helpu eraill

26/09/2024

'Beio fy hun': Dioddefwraig camdriniaeth ddomestig yn galw am fwy o adnoddau i helpu eraill

"Mi wnes i ddeffro ac oedd clustog dros fy ngwyneb i. Oedd o'n deud, tro nesa wnei di ddim deffro."

Am chwe blynedd fe fu Sara, nid ei henw iawn yn dioddef o drais domestig. Ddegawdau'n ddiweddarach,mae'r profiad yn dal i gael effaith.

"O'n i'n beio fi fy hun fel mae lot o fenywod sy'n mynd drwyddo fo. Mae'r ffactor cyntaf, sef ofn, yn gwbl gyffredin i bawb. Ti ofn achos maen nhw'n bygwth chdi, lle bynnag ti'n mynd wna i ffeindio chdi a dod a chdi nôl, neu'n waeth, wna i ffeindio chdi a lladd chdi."

Mae adroddiad gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn dangos bod dros 45,000 achos o drais domestig yng Nghymru llynedd.

Hynny'n 16.4% o'r holl droseddau gafodd eu cofnodi. Mae 'na alw am ragor o gymorth i bobl fel Sara.

"Fyny at y pwynt yna, oedd y berthynas yn gariadus a normal. O'n i isio gweithio allan pam bod hyn 'di digwydd.

"Be o'n i wedi neud o'i le i achosi fo? Doedd dim ateb i hynny."

Yn y flwyddyn ddwetha, na'th 70% o wasanaethau arbenigol ym maes trais domestig weld cynnydd yn y galw am gymorth.

Fethodd dros 700 o oroeswyr gael mynediad at loches.

"Oedd rhaid i 'nhad ddod i nôl fi efo'r plant dros nos a dod a ni nôl i Gymru a dyna be ddigwyddodd. Doedd o dal ddim yn gadael ni fod.

"Oedd o'n dal i ddod i'r cartre yng Nghymru ac yn anffodus pan roedd y plant yn ifanc fe ddaru ni orfod symud 11 gwaith."

Er mwyn helpu eraill mae criw nawr yn y broses o ddatblygu syniad o'r enw SGWRS. Lle diogel i ferched cael dod ynghyd.

"Oedden ni'n teimlo bod yr angen yna i sefydlu rhywbeth anffurfiol. Cyfle i ferched ddod at ei gilydd i rannu stori. Mae o'n sgwrs a deud y gwir, siarad a gwrando wrth rannu.

"Mae'n anffurfiol ond yn rhoi cysur, gobaith a chymorth i ferched sydd wedi bod trwy brofiadau erchyll yn eu bywydau."

"You'll get the victim, she'll come through to me..."

Wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Prydain gynllun peilot i roi timau arbenigol mewn canolfannau 999 i ddelio yn benodol gyda galwadau am gamdrin domestig.

"I'd be terrified for her."

Oes 'na le i wneud mwy?

"Bendant mae angen mwy o adnoddau a llefydd lle gall merched fynd gyda'u plant neu beth bynnag.

"Mae angen mwy o heddlu, pobl sydd wedi cael eu hyfforddi i ddelio efo hyn yn arbenigwyr.

"Wedyn be sy'n digwydd i'r troseddwr pan mae'n dod allan o garchar?"

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan bob menyw hawl i fyw heb drais camdriniaeth a chamfanteisio a'i bod wedi diogelu rhan o'r gyllideb i gynnal gwasanaethau rheng-flaen hanfodol gan adlewyrchu y flaenoriaeth y maent yn ei roi i'w hymrwymiad cyffredin i ddod â thrais o'r fath i ben.

Yn y cyfamser, dal i rannu ei phrofiad hunllefus fydd Sara.

"Dw i wedi gallu teimlo rhyddid rŵan diolch byth, i allu siarad am be ddigwyddodd. Dw i hefyd yn gallu rhoi cymorth i ferched eraill sy'n mynd drwyddo ac i ddangos bod gobaith dod dros rywbeth sy'n gwbl erchyll.

"Lle dach chi'm yn meddwl byddwch chi'n dod allan ohono yn fyw."

Gan obeithio y bydd rhagor o gefnogaeth i ddioddefwyr fel hithau yn y dyfodol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.