Newyddion S4C

Carchar am oes i lofrudd am ladd tad i bedwar yn Nhrefforest

26/09/2024
Kieren Ashton Carter llun

Mae dyn o Birmingham wedi derbyn dedfryd o garchar am oes am lofruddio dyn 30 oed yn Rhondda Cynon Taf ym mis Rhagfyr y llynedd.

Bydd yn rhaid i Kieran Ashton Carter, 22 oed, dreulio o leiaf 16 blynedd o'i ddedfryd dan glo.

Bu farw Daniel Rae o Drefforest mewn tŷ ar Stryd y Dywysoges yn y pentref ar nos Sul, 17 Rhagfyr.

Yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru cafodd Carter ei ganfod yn euog o lofruddiaeth ddydd Iau.

Fe gafwyd Amy Jones, 37 oed, o Bontypridd yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe gafwyd Chad Joy, 33 oed, hefyd o Bontypridd, yn euog o gynorthwyo troseddwr.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Paul Raikes bod ei feddyliau gyda ffrindiau a theulu Daniel.

"Mae'r dedfrydau hyn yn dangos i'r rheiny sydd yn bwriadu troseddu y byddwn ni byth yn stopio ymchwilio.

"Mae fy meddyliau yn parhau gyda theulu a ffrindiau Daniel sydd wedi gorfod dod i dermau gyda'i golled.

"Hoffwn hefyd ddiolch i deulu Daniel am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth trwy gydol yr ymchwiliad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.