Newyddion S4C

Cau uned mân anafiadau yn Llanelli dros nos oherwydd 'materion diogelwch'

26/09/2024
tywysog philip

Bydd Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli yn newid i fod yn wasanaeth 12 awr yn ystod y dydd ymhen ychydig fisoedd, a hynny wedi pryderon am 'faterion diogelwch'.

Fe fydd y newidiadau yn digwydd o 1 Tachwedd ymlaen, a hynny am gyfnod o chwe mis medd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Daw'r addasiad wedi pryderon am ddiogelwch cleifion, a gafodd eu codi gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), wedi arolygiad ym mis Mehefin y llynedd. 

Roedd hyn yn sgil "anallu cyson i ddod o hyd i feddygon â chymwysterau addas" ar gyfer gwasanaethau oedd yn cael eu harwain gan feddygon teulu yn enwedig dros nos yn ôl AGIC.

Mae hyn wedi golygu mai Ymarferwyr Nyrsio Brys sydd wedi bod yn arwain y gwasanaeth sydd "methu â darparu gofal addas i gleifion sydd angen Meddyg Teulu" er eu bod yn "fedrus wrth ymdrin â man anafiadau" medd y bwrdd iechyd.

Dywedodd Sam Dentten, o gorff gwarchod cleifion Llais, ei fod yn siomedig am y gostyngiad arfaethedig yn y gwasanaeth yn Llanelli.

Dywedodd: “Os nad oes gan wythfed tref fwyaf poblog Cymru adran achosion brys lawn, os na ellir staffio uned mân anafiadau 24 awr dan arweiniad meddygon teulu yn ddibynadwy, beth yw dyfodol gofal brys yn y dref?” 

Mae staff meddygol yr ysbyty wedi cymeradwyo'r angen i fynd i'r afael â'r broblem, a hynny yn sgil "pryderon cynyddol" am ddiogelwch cleifion. 

Dywedodd Jon Morris, Arweinydd Clinigol Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip: "Er mwyn sicrhau diogelwch a hyder y bobl sy’n mynychu’r uned mân anafiadau, mae angen i ni allu darparu gwasanaeth sy’n addas i’r diben yn ystod yr holl oriau agor.  

“Mae’r anallu i gyflenwi’r rota yn gyson, gyda meddygon â chymwysterau addas, yn enwedig gyda’r nos a thros nos, yn peri risg i’n cleifion a’n staff, gydag absenoldebau staff wedyn yn gwaethygu’r broblem."

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Lanelli Lee Waters mewn llythyr at gadeirydd y bwrdd iechyd: "Mae'r penderfyniad i gael gwared o ofal dros nos yn Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywysog Philip yn pryderu pobl Llanelli. 

"Nid yn unig y mae'n cynrychioli torri ymrwymiad o ddarparu gofal 24 awr wedi i'r Uned Achosion Brys gau, ond mae hefyd yn codi nifer o gwestiynau am gynllun y bwrdd iechyd a'r awgrym fod dirywiad parhaus wedi bod yn digwydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.