Newyddion S4C

Prinder nyrsys yn arwain at symud rhai cleifion o ward plant yn Aberystwyth

26/09/2024

Prinder nyrsys yn arwain at symud rhai cleifion o ward plant yn Aberystwyth

Bydd plant sydd angen mwy na 24 awr o ofal yn cael eu trosglwyddo o Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin am gyfnod, o ganlyniad i leihad dros dro yn nifer y nyrsys plant sydd ar gael i weithio yno.

Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi mewn cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddydd Iau.

Bydd Ward Angharad, ward plant Bronglais, yn cadw gwasanaeth 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn medd y bwrdd iechyd. 

Bydd asesiad a thriniaeth yn yr Uned Gofal Dyddiol Pediatrig, lle gellir asesu a thrin plant, yn parhau, yn ogystal â thriniaeth lawfeddygol a sefydlogi.

Bydd plant a phobl ifanc sy’n debygol o fod angen arosiadau estynedig yn yr ysbyty am fwy na 24 awr ac nad ydynt yn debygol o gael eu rhyddhau o fewn ychydig oriau yn derbyn y gofal hwn yn Ysbyty Glangwili.

Dywed y bwrdd iechyd y bydd hyn yn effeithio ar lai na phedwar o blant neu bobl ifanc a'u teuluoedd bob mis.

Chwe mis

Cymeradwyodd y bwrdd iechyd y newid am gyfnod o hyd at chwe mis, gan ddechrau ar 1 Tachwedd 2024. 

Os bydd ateb staffio yn cael ei sicrhau yn y cyfamser, caiff y sefyllfa ei hadolygu yn y gobaith y bydd modd dychwelyd y gofal i Ysbyty Bronglais.

Dywedodd Dr Prem Kumar Pitchaikani, Cyfarwyddwr Clinigol y Gyfarwyddiaeth Menywod a Phlant a Phediatregydd Ymgynghorol yn Hywel Dda: 

“Wrth i’r gwasanaeth pediatrig baratoi ar gyfer cyfnod anodd y gaeaf, mae rhai pwysau staffio penodol ac ychwanegol yn ward plant Ysbyty Bronglais yr hydref hwn.

“Mae hwn yn newid gwasanaeth gweithredol tymor byr, i gadw ein plant a’n pobl ifanc sy’n derbyn gofal, a’n staff yn ddiogel, wrth i ni archwilio opsiynau i ddatrys y mater hwn."

Ychwanegodd: “Ein blaenoriaeth yw darparu’r gofal gorau posibl i’n cleifion ifanc a’u teuluoedd a chynnal y mwyafrif helaeth o’r gofal a’r driniaeth a gynigir ar y ward, gan effeithio ar gyn lleied o deuluoedd â phosibl.

“Fe fyddwn ni’n cadw mewn cysylltiad agos â’r teuluoedd sydd efallai’n gorfod cael eu trosglwyddo i Glangwili ac yn eu cefnogi bob cam o’r ffordd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.