Cynghorwyr Wrecsam yn rhoi rhyddid y fwrdeistref i long o'r Llynges
Mae rhai cynghorwyr yn Wrecsam wedi beirniadu’r penderfyniad i roi rhyddid y fwrdeistref i long o’r Llynges Frenhinol.
Cafodd Y HMS Dragon ei dynodi yn llong oedd yn gysylltiedig â Wrecsam gan y Llynges mewn seremoni ym mis Ebrill, sef y llong rhyfel cyntaf i gael dynodiad â’r ddinas ers yr Ail Ryfel Byd.
Mewn cyfarfod o’r cyngor sir ddydd Mercher, fe wnaeth y mwyafrif o aelodau bleidleisio o blaid rhoi rhyddid y fwrdeistref i’r llong.
Fe wnaeth y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, sydd yn llysgennad y lluoedd arfog ar ran yr awdurdod ddweud y byddai gwobrwyo’r statws anrhydeddus yn deyrnged i gyfraniad y Llynges i’r sir.
Ond dywedodd y Cynghorydd Carrie Harper o Blaid Cymru y byddai aelodau’r blaid yn ymatal o’r bleidlais oherwydd eu bod yn “anghyfforddus” yn rhoi’r wobr i “wrthrych nad yw'n fyw”.
'Cryn drafodaeth'
Mae’r llong wedi ei leoli yn Portsmouth ar hyn o bryd wrth i’w injan, sensoriaid ac arfau gael eu hadnewyddu. Mae’r llong yn dal criw o 200 a’i phrif bwrpas yw amddiffyn llongau eraill gyda system gwrth-daflegrau.
Mae’r Llynges yn rhoi cysylltiad swyddogol i bob llong â thref neu ddinas, ac yn wreiddiol, mi roedd y HMS Dragon yn gysylltiedig â Chaerdydd.
Ond gyda llong ffrigad newydd o’r enw HMS Cardiff yn cael ei hadeiladu, fe gafodd yr HMS Dragon ei dynodi yn llong â chysylltiad gyda Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Harper nad oedd y blaid yn hapus gyda’r rhesymeg o roi’r statws anrhydeddus i long.
“Rydym wedi cael cryn drafodaeth am hyn fel grŵp,” meddai.
“Nid ydym yn teimlo y gallwn gefnogi’r argymhelliad ar y sail nad ydym yn gyfforddus â’r syniad o roi rhyddid y fwrdeistref i wrthrych nad yw'n fyw.
“Rydym yn hapus i ystyried rhyddid y fwrdeistref i unigolion a sefydliadau. Nid sylw ar y cysylltiad mohono, ond dim ond y technegoldeb o'i gwmpas."
Cefnogaeth
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones o’r Ceidwadwyr ei fod yn credu y byddai’r anrhydedd yn arwyddocaol i swyddogion y Llynges a’u teuluoedd.
“Nid yw’n wrthrych anfyw,” meddai. “Mae'n llong sy'n cynnwys nifer enfawr o swyddogion a dynion sy'n gwasanaethu.
“Mae teuluoedd y swyddogion a’r dynion sy’n gwasanaethu ar y llongau hyn yn elwa’n fawr o gael y math hwn o gysylltiad, felly rwy’n cefnogi’r cynnig hwn yn llwyr.”
Dywedodd y Cynghorydd Jeremy Kent o’r Ceidwadwyr y byddai yn cefnogi’r argymhelliad, er iddo wneud sylw hwyliog yn dweud na fyddai yn disgwyl gweld y llong yn teithio ar hyd unrhyw afonydd lleol.
Dywedodd: “Er efallai y bydd y Cymry Brenhinol yn gorymdeithio drwy’r strydoedd neu’r Awyrlu Brenhinol ar hedfan uwch ein pennau, rwy’n amau y bydd HMS Dragon yn hwylio i fyny Afon Gwenfro.
“Ond mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cydnabod y cysylltiad hwn trwy gynnig rhyddid y fwrdeistref iddyn nhw.”
Cafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo gyda 37 o aelodau yn pleidleisio o’i blaid a tri yn ymatal. Fe fydd seremoni swyddogol i wobrwyo’r statws anrhydeddus yn cael ei drefnu maes o law.