Gwahardd cynghorydd rhag mynd i bentref yn Llŷn wedi honiad o stelcian
Mae cynghorydd o Loegr wedi cael ei wahardd am y tro o bentref ar Ben Llŷn wedi honiad o stelcian.
Mae Christopher Twells, 33 wedi derbyn Gorchymyn Diogelu rhag Stelcio dros dro nes 22 Ionawr sy’n ei wahardd o bentref Llanbedrog lle mae ei rieni yn byw.
Roedd wedi dod i sylw’r wasg y flwyddyn ddiwethaf ar ôl cael ei wahardd gan ei blaid y Democratiaid Rhyddfrydol am ennill etholiad i gynrychioli dwy ward leol wahanol 150 milltir ar wahân.
Roedd wedi ennill yn ward Tetbury yn Upton yn ne-orllewin Lloegr er ei fod eisoes yn cynrychioli Ordsall yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Wrth ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno dywedodd Mr Twells, sydd bellach yn byw yn Tetbury, Sir Gaerloyw, y byddai o “fudd mawr iddo” gael ymweld â Llanbedrog.
“Nid wyf wedi cael fy nghyhuddo o unrhyw drosedd,” meddai.
“Rydw i’n ddieuog nes fy mod i'n cael fy mhrofi'n euog.”
‘Cyfnod hir’
Ond penderfynodd y Barnwr Gwyn Jones beidio newid y gorchymyn a gafodd ei osod arno gan Heddlu’r Gogledd.
Dywedodd y cyfreithiwr Gareth Preston, ar ran yr heddlu, fod yr achos yn ymwneud â dynes.
Cafodd nifer o honiadau eu gwneud yn erbyn Twells, meddai.
Ond dywedodd y cyfreithiwr Chris Field, oedd yn cynrychioli'r cynghorydd, ei fod yn anghytuno â'r honiadau. Dadleuodd nad oedd yn briodol gosod y gorchymyn dros dro arno.
“Nid oes unrhyw awgrym ei fod wedi torri amodau ei fechnïaeth,” ychwanegodd Mr Field.
Fodd bynnag, dywedodd y Barnwr Jones y gallai yna fod “gyfnod hir” cyn iddo beidio wynebau amodau mechnïaeth ac fe ganiataodd gais yr heddlu am Orchymyn Diogelu rhag Stelcio.