'Fframiwr heb ei debyg': Diwedd cyfnod i un o gymeriadau Dyffryn Nantlle
Mae'n ddiwedd cyfnod i un o gymeriadau amlycaf Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd, wrth i Meic Roberts ymddeol o'i fusnes fframio gwaith celf a ffotograffau.
Mae wedi fframio gwaith artistiaid lleol a chenedlaethol ers 28 o flynyddoedd bellach, ac mae ei siop ‘Llun Mewn Ffrâm’ ar Stryd yr Wyddfa ym Mhenygroes yn ganolbwynt i nifer sydd yn galw heibio am baned, sgwrs a chyfle i roi'r byd yn ei le.
"Fframiwr lluniau heb ei debyg" yw barn un artist am ei waith, ac wrth siarad ar raglen Heno fe ddywedodd yr artist Meirion Jones mai Meic Roberts yw "un o fframwyr gorau Cymru ag un o gymeriadau mwyaf hoffus Cymru hefyd."
"Hael, caredig ac yn fodlon mynd y filltir ychwanegol" oedd barn cymar Meirion, yr artist Joanna Jones amdano.
"A sa'i nabod neb sy'n gallu gwneud ffrâm mor sydyn â Meic. Bydde ni'n ffonio lan un diwrnod â mesuriadau, a bydde fe gyda ni'r diwrnod nesaf. Roedd yn fodlon dod yr holl ffordd o Benygroes i Aberteifi, ac o ni'n mwynhau ei groesawu 'ma."
"Mae Meical wedi bod yn fframio i ni ers cryn amser, ond roedd hefyd yn fframio i fy nhad, Aneurin," ychwanegodd Meirion Jones.
"Oedd e, Aneurin, yn meddwl yn uchel iawn o waith Meical, roedd o'n waith o safon."
Inline Tweet: https://twitter.com/HenoS4C/status/1838531878061568214
Dyddiau cynnar
Wrth drafod y dyddiau cynnar, dywedodd Meic Roberts ei fod wedi cael cynnig swydd gan gwmni Sain yn Llandwrog gan Dafydd Iwan.
"Roedd yna weithdy fframio yna. Dysgu fy hun fwy na heb, nid fel mae pethau'r dyddiau yma pan mae gen ti Youtube i dy helpu."
Dywedodd Dafydd Iwan fod Mr Roberts wedi mentro ar ei liwt ei hun yn y pendraw ar ôl dysgu'r grefft o fframio:
"Y diweddar Aled Gryffydd Pwllheli ddaru greu ‘Llun Mewn Ffrâm’. Mi ddaru Sain brynu'r busnes gynno fo a finna'u dweud wrth Meic oedd yn gweithio i ni ar y pryd yn stiwdio Sain, 'dysga'r grefft. Dysga sut mae fframio.'
"A chwarae teg, fe weithiodd arno a fe wnaeth ac fe ddoth yn grefftwr o fframiwr heb ei ail. Nath o fentro yn y diwedd i fynd yn hunangyflogedig a symud y busnes i Benygroes, a mae wedi gwneud llwyddiant ohoni."
Wrth drafod diwedd ei gyfnod yn ‘Llun Mewn Ffrâm’, dywedodd Meic wrth Heno ei fod yn "deimlad reit emosiynol a dweud y gwir".
Lluniau gan Heno