Y Gymraeg yn derbyn statws gwarchodedig o fewn Heddlu'r Gogledd
Y Gymraeg yn derbyn statws gwarchodedig o fewn Heddlu'r Gogledd
"Dw i'n byw 'ma trwy fy mywyd.
"Pan ges i gynnig swydd i weithio yng Nghaernarfon yn benodol o'dd o'n anodd troi o lawr."
Go brin gewch chi dref fwy Cymreig na Chaernarfon ac i heddweision yr ardal, mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o'u gwaith.
"Mae pobl yn gallu teimlo'n gyfforddus yn dŵad tuag aton ni efo unrhyw broblemau sydd ganddyn nhw.
"Mae'n hanfodol, mae wir yn hanfodol."
Ar draws y llu, mae 40% o aelodau staff yn medru sgwrs yn y Gymraeg a 36% yn rhugl.
Ac i swyddogion fel Jordan Jones fyddai 'na'm modd gwneud y swydd yn y rhan yma heb y sgiliau rheiny.
"Mae Caernarfon yn unigryw yn y ffaith fod gei di drafferth ffeindio rhywun sy ddim yn siarad Cymraeg 'ma.
"I ni, 'dan ni'n delio efo lot o ddigwyddiadau sy'n eitha creulon ac yn ofnadwy o emosiynol.
"Mae'n bwysig fod y cyhoedd yn gyfforddus wrth siarad efo ni.
"Dw i 'di cyffwrdd arni'n barod.
"'Swn i ddim yn gallu gwneud y swydd 'dan ni'n gwneud yng Nghaernarfon heb fod ni'n gallu siarad Cymraeg o gwbl."
Daw ar gyfnod lle mae'r llu yn y gogledd am warchod y Gymraeg a'r Prif Gwnstabl rŵan wedi cyhoeddi statws gwarchodedig fydd yn sicrhau nad yw Cymry Cymraeg ar eu colled.
"I want new recruits to take their entrance test in Welsh and English.
"The language that is comfortable for them.
"They won't spend time translating from one language to another.
"They're not disadvantaged in taking that test.
"I want to make sure we have leaders who are first language Welsh.
"Definitely making sure that our internal promotion opportunities don't disadvantage Welsh speakers is really important as well."
Yn ôl y llu, mae'r cynllun eisoes ar waith gyda'r gobaith o greu sefydliad sydd â'r Gymraeg yn flaenoriaeth.