Newyddion S4C

Cynnal cynhadledd amgylcheddol ieuenctid cyntaf ar yr Wyddfa

26/09/2024

Cynnal cynhadledd amgylcheddol ieuenctid cyntaf ar yr Wyddfa

"Croeso mawr i bawb i'r gynhadledd amgylcheddol ieuenctid cyntaf ar yr Wyddfa.

"Croeso cynnes i GOPA1."

Cynhadledd amgylcheddol newydd i'r genhedlaeth nesaf a ffocws y trafodaethau yw sbwriel ar fynydd uchaf Cymru.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gwirfoddolwyr wedi casglu 1.3 tunnell o blastigion o'r Wyddfa.

"Mae tua 5% o gopa'r Wyddfa wedi'i wneud o meicroplastigion.

"Mae 'na broblem ddifrifol sydd angen ei daclo."

"Ni'n parhau gyda sesiwn dau." 

Parc Cenedlaethol Eryri sydd wedi trefnu'r gynhadledd fel rhan o'i hymgyrch i wneud yr Wyddfa y mynydd di-blastig cyntaf.

"Pobl ifanc yw llysgenhadon hinsawdd y dyfodol.

"Defnyddwyr y mynydd y dyfodol a nhw sydd hefo'r syniadau gorau.

"Ni am roi llais a phlatfform iddyn nhw i ddiffinio dyfodol yr Wyddfa."

Mae dros 600,000 o bobl yn cerdded llwybrau'r Wyddfa bob blwyddyn.

Heddiw, fel rhan o'r gynhadledd, mae 15 grŵp o ddisgyblion wedi rhannu eu syniadau ar sut i daclo gwastraff plastig ar y mynydd.

Mae 'na wobr i'r tri gorau, £1,500 i ddatblygu'r syniadau.

"Syniad ni yw cael clipiau dwbl ar eich canol a bagiau a'r rhain yn pydru'n reit sydyn.

"Chi'n gallu prynu nhw'n rhad iawn yn y caffi, rownd tua 20c a chi'n casglu ar y ffordd lawr.

"Chi'n gwella'ch ffitrwydd a neud yr Wyddfa yn fynydd ddi-blastig."

"Ein syniad yw creu app i sganio plastig a chasglu pwyntiau.

"Chi'n defnyddio QR code i roi tystiolaeth bod chi wedi ailgylchu'r plastig.

"Wedyn, chi'n defnyddio'r pwyntiau mewn siop neu caffi Yr Wyddfa a phrynu merch nhw."

Ydych chi'n hyderus bod syniad chi'n mynd i ennill?

"Ie, ni'n hyderus iawn!"

Ar ôl i bawb gyflwyno eu cynlluniau mae grŵp o feirniaid yn dewis yr enillwyr.

"Nid gimic na sioe i ddangos i'r byd bod pethau'n digwydd ydy o ond ymateb gonest i geisio datrys y broblem blastig sydd wedi tyfu'n raddol dros y blynyddoedd gyda thwf twristiaeth.

"Mae'n bleser pur bod yn rhan o'r diwrnod."

Taith i gopa'r Wyddfa ddaeth a'r gynhadledd i ben prynhawn 'ma ond newydd ddechrau mae'r gwaith i dri o'r grwpiau.

Maen nhw'n ceisio helpu'r Wyddfa i fod yn fynydd di-blastig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.