Rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi rhoi Caerdydd ‘dan bwysau’
Mae rhyddhau carcharorion yn gynnar wedi rhoi Caerdydd dan bwysau meddai aelod o gabinet cyngor y brifddinas.
Caerdydd sydd â’r ail nifer uchaf o garcharorion yn cael eu rhyddhau i’r gymuned ar draws Cymru a Lloegr meddai'r cyngor, gan roi gwasanaethau dan straen.
Dywedodd swyddogion y cyngor eu bod nhw’n derbyn adroddiadau “bob yn ail ddiwrnod” am gyn garcharorion yr oedd angen iddyn nhw eu cefnogi.
Mae'r awdurdod lleol ar fin prynu gwesty, llety myfyrwyr a thŷ er mwyn helpu i ymgartrefu pobl, gyda llety dros dro ar draws y ddinas eisoes yn llawn, medden nhw.
Dywedodd y cyngor eu bod nhw wedi gorfod cefnogi 11 o bobl oedd yn gadael y carchar ar un diwrnod, sef Medi 10.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Caerdydd: “Mae y tu hwnt i fi pam eu bod nhw wedi penderfynu eu rhyddhau i gyd ar yr un diwrnod.
“Dydw i ddim yn gwybod pam na allan nhw ei wneud un neu ddau'r dydd dros dri mis yn hytrach na’r cyfan mewn un diwrnod.
“Mae’n rhaid iddo fod yn haws i’r gwasanaeth carchardai, i’r gwasanaeth prawf ac yn sicr i ni.”
'Camarweiniol'
Fe gafodd y carcharorion eu rhyddhau gan Lywodraeth Lafur y DU er mwyn ymdrin â gorlenwi mewn carchardai.
Mae cynllun arall wedi gostwng cyfnod rhai carcharorion yn y carchar o 50% o’u dedfryd i 40%.
Dywedodd cyfarwyddwr oedolion, tai a chymunedau Cyngor Caerdydd, Jane Thomas: “Cafodd [y rhai sy’n gadael carchar] asesiad risg a’u gosod mewn lleoliadau priodol.
“Yn y cyfnod cyn hynny, roedd y wybodaeth yn gamarweiniol iawn rwy'n meddwl ei fod yn wir i'w ddweud.
“Fe gawson ni nifer o wahanol adroddiadau oherwydd yn amlwg roedd y gwasanaeth prawf hefyd yn gorfod delio â hyn yn gyflym iawn.
“Roedden nhw’n rhoi rhestrau gwahanol i ni bob yn ail ddiwrnod, ond wrth weithio gyda’n gilydd fe wnaethon ni gyrraedd y nod ac yn y diwedd rwy’n meddwl ei fod wedi mynd yn dda.”