Newyddion S4C

‘Mae’r diwedd yn dod i bawb’: Neges deimladwy'r digrifwr Janey Godley

26/09/2024
Janey Godley

Mae Janey Godley wedi rhannu fideo deimladwy yn dweud ei bod bellach yn derbyn gofal diwedd oes ar ôl i ganser yr ofari ledu.

Cyhoeddodd y digrifwr 63 oed o Glasgow neges ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud ei bod yn derbyn gofal diwedd oes mewn ysbyty ac y byddai yn symud i hosbis yn fuan.

Dywedodd ei bod yn derbyn gofal lliniarol, ac nad oedd hi wedi gallu cymryd mwy o gemotherapi a bod ei chanser wedi lledu.

“Felly mae'n edrych yn debyg bod y diwedd yn agosáu, ac mae'n anodd iawn siarad am hyn a dweud wrth bobl,” meddai.

“Mae'n newyddion torcalonnus gwybod fy mod yn wynebu diwedd oes, ond mae’r diwedd yn dod i bawb ryw bryd."

Ychwanegodd: “Rydw i am ddiolch i bawb am gefnogi fy nheulu, yn enwedig Ashley a fy ngŵr, mae'r gefnogaeth aruthrol wedi bod yn anhygoel. 

“Dydw i ddim yn gwybod faint o amser sydd ar ôl cyn i unrhyw un ofyn – nid TikTok ydw i.

“Felly gobeithio y cewch chi Nadolig hyfryd. Gobeithio y bydda i yma, pwy a wyr?”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.