Ymosodiad seibr ar ddegau o orsafoedd trenau 'heb effeithio ar Gymru'
Dyw Cymru ddim wedi cael ei effeithio gan ymosodiadau seibr ar ddegau o orsafoedd trenau nos Fercher, meddai Trafnidiaeth Cymru.
Cafodd cysylltiad Wi-Fi 20 gorsaf trên ar hyd a lled y DU eu hacio gan olygu bod teithwyr oedd yn ceisio cysylltu â’r we yn gweld tudalen llawn negeseuon am ymosodiadau terfysgol.
Gyda’r pennawd, ‘Rydym yn eich caru, Ewrop’, roedd y dudalen yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau terfysgol sydd eisoes wedi digwydd yn y DU a thramor gan awgrymu neges gwrth-Islamaidd.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C nad oedd unrhyw orsaf trên yng Nghymru wedi ei effeithio.
“Doedd dim effaith o gwbl,” medd llefarydd.
'Ymchwiliad'
Dywedodd Network Rail wrth PA bod bob un o'u gorsafoedd wedi eu heffeithio heblaw am St Pancras, ond Trafnidiaeth Cymru sy'n gyfrifol am gynnal gwasanaethau eu gorsaf yng Nghaerdydd Canolog.
Ymhlith y gorsafoedd trên a gafodd eu targedu oedd Lime Street yn Lerpwl, Manceinion Piccadilly, Temple Meads ym Mryste, Reading, Dinas Leeds, Caeredin Waverley, Glasgow Central a Guildford.
Roedd 11 o orsafoedd trên hefyd wedi’u targedu ym mhrifddinas Llundain, gan gynnwys Euston a Victoria.
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad yn dilyn y digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan eu bod yn cydweithio gyda Network Rail gyda’u hymchwiliad, wedi iddyn nhw gael gwybod am ddigwyddiad tua 17.03 brynhawn ddydd Mercher.
Roedd y digwyddiad wedi “parhau” nes o leiaf 21.00 nos Fercher ac fe gafodd gwasanaethau Wi-Fi eu hatal yn y gorsafoedd trên a gafodd eu heffeithio.
Dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: “Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan drydydd parti ac mae wedi ei atal tra bod ymchwiliad yn cael ei chynnal.”
Llun: Gorsaf trên Manceinion Piccadilly/Network Rail