Darlledwr yn beirniadu arwyddion Gaeleg 'sarhaus' yn yr Alban
Mae'r darlledwr Andrew Marr wedi beirniadu gosod arwyddion Gaeleg mewn rhannau o'r Alban, gan ddisgrifio'r polisi fel un "sarhaus".
Yn ôl adroddiad papur newydd yn yr Alban, gwnaeth Mr Marr ei sylwadau mewn cyfarfod yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl.
Roedd yn ymateb i gwestiwn gan aelod o'r gynulleidfa a ofynodd a oedd gan yr Alban wersi i'w dysgu o agwedd Llywodraeth Llafur Cymru tuag at y Gymraeg, a'r ymdrechion i'w hybu.
Roedd y cwestiwn wedi ei anelu at Anas Sarwar, arweinydd y blaid Lafur yn yr Alban, ond torrodd Mr Marr ar ei draws, gan ddweud: "Pam mae'n rhaid i Haymarket (gorsaf drenau yng Nghaeredin) gael y fersiwn Gaeleg o dan yr enw Haymarket ? Mae'r peth yn gwbl dwp."
"Yn hanesyddol, mae'r Alban yn cynnwys pob math o bobl. Mae llawer o bobl wedi dod i'r Alban a mae nhw wedi dod ag ieithoedd gwahanol hefo nhw. Dwi'n meddwl y dyla ni adael i ieithoedd orffwys a ffynnu yn y llefydd mae nhw wedi dod ohonyn nhw."
Yn ôl yr adroddiad papur newydd. cafodd ei sylwadau gymeradwyaeth uchel gan aelodau o'r gynulleidfa.
Dywedodd Mr Sarwar nad oedd o'n cytuno ag Andrew Marr.
Roedd Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, Kate Forbes, sydd â chyfrifoldeb am yr iaith, yn feirniadol o Mr. Marr, gan ofyn: "Os nad yw un o iethoedd yr Alban yn cael croeso yma, lle bydd hi'n cael croeso?"