Cadeirydd bwrdd iechyd y gogledd 'ddim yn gwybod' am gynllun cydweithio Llywodraethau Llafur
Cadeirydd bwrdd iechyd y gogledd 'ddim yn gwybod' am gynllun cydweithio Llywodraethau Llafur
Doedd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddim yn gwybod am gynllun newydd Llywodraethau Cymru a Phrydain i gyd-weithio'n agosach er mwyn lleihau rhestrau aros.
Fe gyhoeddodd y ddwy lywodraeth Lafur yr wythnos hon y gallai cleifion gael eu trin ar naill ochr y ffin er mwyn ceisio lleihau y nifer sydd ar restrau aros.
Wrth siarad wedi cyfarfod blynyddol y bwrdd iechyd, fe ddywedodd Dyfed Edwards hefyd nad oedd o’n credu bod y bwrdd iechyd yn barod i ddod allan o fesurau arbennig ond bod gwaith da a chynnydd yn digwydd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C mai’r flaenoriaeth o hyd yw gwella safon y gofal a’r ddarpariaeth i’r 700,000 o gleifion yng ngogledd Cymru.
O dan y cynllun newydd mi fyddai cleifion o Loegr hefyd yn gallu derbyn triniaeth yng Nghymru ond yn ôl Cadeirydd bwrdd iechyd y gogledd mae rhannau adnoddau eisoes yn digwydd.
“Mae na gyd-weithio yn digwydd rhwng ni fel bwrdd iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr.
“Mae nhw’n rhan hanfodol o’r hyn allwni gynnig i gleifion bob dydd a phob wythnos.
“Ond mae’r mater o ddweud bod byrddau iechyd eraill yn gallu cymryd pobl o restrau aros... dwi’n meddwl fod hynny’n mater arall sydd angen ei wyntyllu yn ofalus a gweld be di’r manylion”.
'Peryg symud y broblem'
Wrth holi a oedd Mr Edwards yn gwybod am y manylion cyn y cyhoeddiad ddydd Llun yng nghynhadledd y blaid Lafur yn Lerpwl dywedodd: “Dwi ddim yn meddwl bod neb yn gwybod am y cyhoeddiad”.
Yn ôl Mr Edwards roedd y Prif Weinidog Eluned Morgan eisoes wedi awgrymu cydweithio ar draws y ffin pan yn y swydd Gweinidog Iechyd ar y pryd, ond mae’n mynnu hefyd bod ‘na angen i weld rhagor o fanylion
“O ble mae’r gefnogaeth am ddod, o le mae’r cynnig yn mynd i ddod?
“Mae’r ysbytai yna eu hunain ‘dan bwysau dwi’n tybio ac mae na beryg yn does inni symud y broblem o un wlad i’r llall”.
'Dyddiau cynnar'
Yn 2023 fe roddwyd Bwrdd Iechyd y gogledd dan fesurau arbennig oherwydd pryderon sylweddol gan Lywodraeth Cymru.
Bron i 18 mis yn ddiweddarach, wrth ofyn a oedd Mr Edwards yn credu bod hi'n amser dod o’r trefniant hynny i ben, dywedodd nad oedd ‘dyddiad pendant’ i hynny.
“Be dwi’n gweld ydy cyfle i gyd-weithio efo’r llywodraeth i greu bwrdd iechyd gorau posib i gleifion.
“Fyddwn i ddim mewn mesurau arbennig am byth ond byddwn i’n dweud bod hi dal yn ddyddiau cynnar."
Wrth drafod y flwyddyn sydd i ddod dywedodd Mr Edwards bod gwaith da ar y gweill gan y dros 20,000 o staff sy’n gweithio i’r bwrdd iechyd ond bod yr hinsawdd ariannol yn parhau yn heriol.
“Dwi’n gobeithio fydd dyfodol ariannol ein gwasanaethau cyhoeddus yn well nag ydio ar hyn o bryd”.