Newyddion S4C

Dioddefwraig camdriniaeth ddomestig yn galw am fwy o adnoddau i helpu eraill

Newyddion S4C 25/09/2024

Dioddefwraig camdriniaeth ddomestig yn galw am fwy o adnoddau i helpu eraill

Mae dioddefwraig camdriniaeth ddomestig yn galw am fwy o adnoddau i helpu menywod eraill.

Roedd Sara, nid ei henw iawn, yn destun cam-drin domestig am chwe blynedd.

Dywedodd bod ei chyn bartner yn arfer ei mygu'n rheolaidd gyda chlustog a'i fod hyd yn oed wedi ceisio ei lladd.

Mae hi bellach yn dioddef gyda PTSD.

45,000 o achosion

Mae adroddiad newydd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru yn dangos yn y flwyddyn ddiwethaf bod dros 45,000 o achosion o gam-drin domestig yng Nghymru – sydd yn 16.4% o holl droseddau Cymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn rhybuddio bod gwasanaethau cymorth arbenigol yn wynebu pwysau digynsail oherwydd cynnydd yn y galw am gymorth.

Yn 2023, yn ôl Cymorth i Fenywod Cymru, gwelodd 70% o wasanaethau arbenigol gynnydd. 

Methodd 712 o oroeswyr gael mynediad at wasanaethau lloches critigol, gyda 28% ohonynt yn methu oherwydd diffyg lle i gael lloches.

'Beio fy hun'

Mae Sara yn dweud nad yw hyn yn dderbyniol a dyw pobl ddim yn sylweddoli'r effaith y gall trais domestig ei gael ar rywun.

Dywedodd: “Roeddwn i wedi deffro rhai weithiau a roedd clustog dros fy wyneb i ac oedd e'n dweud 'tro nesaf wnei di ddim deffro'.

“Dwi ddim yn deall yn iawn beth oedd yn ei boeni o, beth oedd di achosi fo, wrth gwrs o ni'n beio fi fy hunan, fel mae lot o fenywod sydd yn mynd trwy cam-drin domestig.

“Yn yr achos fi oedd na lot o ffactorau. Mae’r factor cyntaf sef ofn yn cwbl cyffredin i bawb sydd yn fynd trwy sefyllfa fel na, ti’n ofn achos mae nhw’n bygwth ti - ble bynnag ti’n mynd wnai ffeindio ti a dod a ti nôl neu wnai bygwth ti a ffeindio ti a lladd ti.

“Wrth gwrs wn i’n baio fi fy hun fel mae lot o fenywod sydd yn fynd trwy cam-drin domestig yn wneud ac yn drio esbonio ac egluro ac datrys beth wn i’n wneud o’i le i achosi fo i fod fel hyn tuag at fi achos fyny at y pwynt hwnna odd y perthynas wedi bod yn un normal a cariadus. 

"Felly beth wn i eisiau gweithio allan odd pam oedd hyn di digwydd a beth oedd fi di wneud o'i le i achosi fo ac wrth gwrs doedd na ddim ateb i hynny."

Ychwanegodd: “Roedd rhaid i tad fi dod i nôl fi yn y nos gyda’r plant a dod a ni nôl i Gymru a dyna beth digwyddodd ond odd e dal dim yn gadael ni fod, odd e dal yn dod i garterf fi mewn Nghymru. Ac yn anffodus pan oedd y blant yn ifanc roedd ni angen symud 11 gwaith.

“Yn bendant mae angen mwy o adnoddau, mae angen mwy o lefydd i fenywod gallu mynd gyda’i plant.

“Dwi wedi gallu teimlo’r rhyddid rwan diolch byth i allu siarad am beth digwyddod gyda fi am brofiad a hefyd fi’n gallu rhoi cymorth i ferched eraill sy’n mynd trwy’r un profiad ac ddangos i nhw mae gobaith i chi dod dros, rhywbeth sydd ar y pryd yn gwbl erchyll ac ti ddim yn meddwl bod ti’n mynd i dod allan o fe’n fyw."

'Rhannu stori'

I helpu menywod eraill, mae Llinos Angharad o ogledd Cymru wedi penderfynu creu grŵp cymorth anffurfiol.

Er nad yw hi’n ddioddefwraig ei hun, dywedodd ei bod hi'n angerddol dros helpu eraill:

“Oeddwn i’n teimlo fod yr angen yno i sefydlu rhywbeth cwbl anffurfiol lle mae na gyfle i ferched dod at ei gilydd i rannu stori a mae yn sgwrs i ddweud y gwir - siarad, gwrando wrth rhannu stori. 

"Mae’n gallu bod yn unrhywbeth, mae’n anffurfiol ond yn cyfle hefyd i rhoi cysur gobaith a cymorth i’r merched sydd wedi mynd trwy porfidau erchyll yn ei fywydau a mae gofyn am gymorth yn gam eithiradol ymlaen.

“Mae rhaid gofyn y cwestiwn beth sydd tu ôl yr ymddygiad yna, mae ganddo ti ffactorau cymdeithasol yn amlwg yn sgil trais domestig - efallai ti’n cael plant yn glwm yno, mae’n anodd iawn dweud ond mae angen gofyn y cwestiwn pam bod y ymddygiad yma, efallai bod angen Llywodraeth Cymru yn enwedig yr adran addysg i wneud mwy ar berthansau iach... a wedyn bydd ni’n gweld lleihad gyda’r problemau sydd gyda ni yn gymdeithas ar hyn o bryd.”

'Nid lle menywod yw newid eu hymddygiad'

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan "bob menyw yr hawl i fyw heb drais, camdriniaeth a chamfanteisio".

Dywedodd llefarydd eu bod wedi diogelu rhan o'r gyllideb i gynnal gwasanaethau rheng flaen hanfodol, gan adlewrychu'r flaenoriaeth y maent yn ei roi i'w "hymrwymiad cyffredin i ddod â thrais o'r fath i ben.

“Mae ein dull gweithredu yn cael ei ategu gan yr ymgyrch 'Iawn', sy'n annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd ac i feddwl am eu hymddygiad eu hunain.

"Nid lle menywod yw newid eu hymddygiad; mater i ddynion a bechgyn yw ystyried y materion eu hunain a gwneud newidiadau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.