Llanelli: Menyw yn pledio’n euog i ddyrnu dyn a bwrw menyw arall gyda’i phen
Mae menyw wedi pledio’n euog ar ôl bwrw menyw arall gyda’i phen a dyrnu dyn ar un o brif strydoedd siopa Llanelli.
Fe blediodd Stacey Harries yn euog i ddau gyhuddiad o ymosodiad cyffredin ac un cyhuddiad o achosi niwed troseddol ar ôl y digwyddiad ar Stryd Stepney.
Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 16:00 ddydd Mercher i adroddiad am ymosodiad.
Roedd y dioddefwyr, dyn 46 oed a dynes 45 oed, yn cerdded drwy ganol y dref pan aeth Stacey Harries atynt.
Dechreuodd ffrae ar lafar, ac fe wnaeth Harries, 39 oed, daro'r ddynes gyda’i phen, cyn dyrnu'r dyn a'i wthio i'r llawr.
Fe aeth Harries i Lys Ynadon Llanelli ddydd Iau lle plediodd yn euog i'r tri chyhuddiad.
Mae wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 6 Tachwedd.
Dywedodd yr Arolygydd Thomas Coppock: “Rydyn ni'n deall y gallai'r digwyddiad hwn fod wedi achosi pryder i aelodau'r cyhoedd oedd yno, ac rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad wrth ei adrodd i’r heddlu.
“Fe wnaeth hyn ein galluogi i weithredu'n gyflym i ddal y troseddwr.
“Rydym am sicrhau'r gymuned na fydd y math hwn o ymddygiad yn cael ei oddef, a’n bod ni’n cymryd camau cadarn i fynd i'r afael â'r math hwn o droseddu.”