Cau hen faenordy i'r cyhoedd am y tro oherwydd arbedion ariannol
Bydd hen faenordy o oes y Tuduriaid yn cau ei drysau i'r cyhoedd am y tro fel rhan o ymdrech Cyngor Caerffili i arbed £45 miliwn .
Ond mae'r penderfyniad i gau Llancaiach Fawr, sy'n dyddio nol i'r 16eg ganrif, wedi ei feirniadu gan nifer o gefnogwyr yr adeilad.
Gwaeddodd nifer ohonyn nhw "cywilydd arnoch chi" wrth i gynghorwyr Caerffili gadarnhau'r penderfyniad mewn cyfarfod ddydd Mercher.
Mae'r cyngor yn gwario tua £500,000 y flwyddyn ar yr adeilad ger pentref Ffos y Gerddinen, sy'n cael ei ddefnyddio fel amgueddfa a man ar gyfer priodasau.
'Penderfyniadau anodd'
Dywedodd arweinydd y cyngor, Sean Morgan, ei fod yn gobeithio y byddai modd ail-agor Llancaiach Fawr rhywbryd yn y dyfodol, ond heb sybsidi gan y cyngor.
Wrth agor ymgynghoriad i ddyfodol yr adeilad yn gynharach eleni, dywedodd y Cynghorydd Morgan: “Ni allwn ni barhau i redeg ein gwasanaethau yn y ffordd arferol.
"Mae angen i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol.
“Rydw i am fod yn onest â’r gymuned, oherwydd mae’n amlwg bod maint yr arbedion yn golygu bod angen i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf.”
Bydd y broses o "gau dros dro" yn parhau am o leiaf chwe mis. Does dim sicrwydd hyd yma beth fydd dyfodol yr 20 o staff sy'n cael eu cyflogi yno.
Mae'r Aelod Senedd dros ranbarth de-ddwyrain Cymru, Delyth Jewell wedi beirniadu' r penderfyniad, gan ddweud ar "x" : "Os bydd yr adeilad yn cau'r drysau . bydd y cysylltiad gyda gorffennol ein hardal yn cael ei golli, a bydd cyfle ein plant i ddysgu am ein hanes yn diflannu gydag e.
"Teimlo'n gwbl ddigalon. Rhaid brwydro i'w achub."