'Ffrind agos' Liam Payne ymhlith pump o bobl i gael eu cyhuddo yn sgil ei farwolaeth
Mae pump o bobl bellach wedi eu cyhuddo yn dilyn marwolaeth cyn-aelod o’r band One Direction, Liam Payne, meddai’r cyfryngau yn Yr Ariannin.
Bu farw'r seren bop 31 oed ar ôl iddo syrthio oddi ar drydydd llawr gwesty'r Casa Sur yn Buenos Aires ar 16 Hydref.
Mae rheolwr y gwesty, Gilda Martin, yn ogystal â gweithiwr yno, Esteban Grassi wedi eu cyhuddo o ddynladdiad.
Mae Roger Nores, oedd yn ffrind i Mr Payne, hefyd wedi ei gyhuddo o ddynladdiad, yn ôl Swyddfa'r Erlynydd Troseddol yno.
Roedd Mr Nores wedi siarad â TMZ yn yr Unol Daleithiau wedi marwolaeth Liam Payne gan ei ddisgrifio fel “ffrind da iawn.”
Dywedodd fod y ddau wedi treulio amser gyda’i gilydd ar ddiwrnod ei farwolaeth.
Cafodd Braian Pai ac Ezequiel Pereyra eu cyhuddo o ddarparu cyffuriau yn ogystal. Y gred yw eu bod nhw’n gweithio yng ngwesty’r Casa Sur hefyd.
Mae barnwr wedi rhoi gorchymyn i ddau o’r pump sydd wedi’u cyhuddo i gael eu cadw yn y ddalfa, yn ôl gwefan newyddion Infobae yn Yr Ariannin.
Dyw enwau’r ddau ddim wedi eu cyhoeddi ond mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron llys o fewn y 24 awr nesaf.
Diystyru 'hunan-niwed'
Fe gafodd tri o bobl eu cyhuddo yn dilyn marwolaeth Mr Payne ym mis Tachwedd ond chafodd eu henwau ddim eu cyhoeddi ar y pryd.
Datgelodd canlyniadau profion tocsicoleg fod gan Liam Payne alcohol, cocên a meddyginiaeth gwrth-iselder yn ei gorff eiliadau cyn ei farwolaeth.
Cyhoeddodd swyddfa’r erlynydd ym mis Tachwedd eu bod yn diystyru "hunan-niwed" yn achos ei farwolaeth.
Dywedodd y datganiad fod tystiolaeth yn awgrymu iddo syrthio'n anymwybodol, neu'n rhannol anymwybodol.
Yn ôl archwiliad post-mortem, bu farw Liam Payne o sawl anaf, a gwaedu mewnol ac allanol.
Fe gafodd ei angladd ei gynnal yn Eglwys Santes Fair, Amersham, Sir Buckingham ar 20 Tachwedd eleni.