Newyddion S4C

Eluned Morgan: Dod yn Brif Weinidog yn 'sioc'

Newyddion S4C 30/12/2024
Eluned Morgan

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion y Flwyddyn 2024, mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan yn dweud fod cael y swydd wedi bod yn "sioc".

Eleni, mae Cymru wedi cael tri Phrif Weinidog. Mark Drakeford oedd wrth y llyw ddechrau’r flwyddyn, cyn i Vaughan Gething gael y swydd ym mis Mawrth, ac yna dros yr haf, cafodd Eluned Morgan ei choroni - y Prif Weinidog benywaidd cyntaf yng Nghymru.

“Yn sicr ddim yn rhywbeth o’n i wedi cynllunio,” meddai Eluned Morgan. 

“Dwi wedi dod â’r grŵp ynghyd ac wedi dechrau canolbwyntio ar flaenoriaethau o’dd pobol Cymru wedi dweud wrthon ni dros yr haf. Ond yn sicr, mi ro’dd hi’n bach o sioc dros yr haf.”

Daeth Eluned Morgan yn brif weinidog ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo ym mis Gorffennaf. Roedd pedwar aelod blaenllaw o’i gabinet wedi ymddiswyddo. 

Roedd Mr Gething wedi bod o dan bwysau ers cyn dod yn brif weinidog ym mis Mawrth oherwydd rhoddion dadleuol i’w ymgyrch i fod yn arweinydd ei blaid ac yn fwy diweddar am ddiswyddo un o’i weinidogion.

Dywedodd Eluned Morgan fod y grŵp Llafur yn Senedd Cymru wedi dod ynghyd ar ôl cyfnod o raniadau.

“Erbyn heddiw, mae gennym fwy o gyllid i helpu ni, bod llywodraeth newydd, Llafur yn San Steffan wedi dod a’r arian ychwanegol yna i helpu ni. 'Dw i’n meddwl bod hwnna i gyd wedi canolbwyntio meddyliau pobol.”

Enillodd y Blaid Lafur yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf gan sicrhau mwyafrif sylweddol i Syr Keir Starmer yn San Steffan. Ond disgynnodd canran pleidlais y blaid yng Nghymru. 

Bydd etholiad Senedd Cymru yn digwydd yn 2026. Llafur sydd wedi bod mewn grym ers chwarter canrif yng Nghymru

“Yn sicr, ma’ gwaith i’w wneud… dwi’n deall pam fod pobol yn ypset. Ma nhw di cael amser caled. 

“Ni 'di bod trwy Brexit. Ni di bod trwy Covid. Ni di bod trwy chwyddiant aruthrol.”

Mae un arolwg barn yn awgrymu her i Lafur gan Blaid Cymru a Reform. Dywedodd Eluned Morgan ei bod yn cydnabod fod heriau.

Wrth gael ei holi beth fydd ei hadduned blwyddyn newydd, dywedodd ei bod yn addo“gweithio ei socks off i ddelifro ar y pethau sy’n blaenoriaethu pobol Cymru.”

Bydd rhaglen Newyddion y Flwyddyn 2024 ar S4C am 1915 ddydd Llun, 30 Rhagfyr. Bydd modd gwylio hefyd ar BBC iPlayer ac S4C Clic.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.