Newyddion S4C

Diswyddo prif hyfforddwr Criced Morgannwg

ITV Cymru 30/12/2024
Grant Bradburn

Mae Criced Morgannwg wedi diswyddo’u prif hyfforddwr Grant Bradburn wedi honiadau iddo ymddwyn yn amhriodol.  

Fe wnaeth y clwb gyfeirio Grant Bradburn at y rheolydd criced annibynnol ar ôl cael gwybod am yr honiadau.

Cafodd y chwaraewr 58 oed o Seland Newydd ei gyhuddo o gamymddwyn ac mae wedi cael ei ddiswyddo “ar unwaith,” meddai Criced Morgannwg

“Rydym yn hyderus bod proses deg a thryloyw wedi’i dilyn yn yr achos hwn,” medd datganiad gan y clwb ddydd Llun.

“Mae gan Criced Morgannwg bolisi sydd ddim yn goddef unrhyw ymddygiad gwahaniaethol.

“Ar ôl cwblhau ein hymchwiliad mewnol ein hunain, daeth yn amlwg nad oedd safbwynt Mr Bradburn yn gynaliadwy, ac mae’r clwb bellach yn darparu’r gefnogaeth briodol i’r rhai y mae'r achos hwn wedi effeithio arnyn nhw. 

Ychwanegodd Cadeirydd Criced Morgannwg, Mark Rhydderch-Roberts: “Yng Nghriced Morgannwg rydyn ni’n rhoi lles ein pobl yn gyntaf. 

"Rydyn ni’n hynod falch o’n record o ran gwneud yn siŵr bod pawb sy’n ymwneud â’r clwb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, yn perthyn ac yn cael eu trin yn deg.”

Roedd Grant Bradburn yn brif hyfforddwr yr Alban rhwng 2014-2018.

Wedi ei eni yn Hamilton, roedd yn droellwr a chwaraeodd saith gêm brawf ac 11 gêm ryngwladol undydd i Seland Newydd rhwng 1990 a 2001.

Fe’i penodwyd yn brif hyfforddwr yr Alban yn 2014 ac arhosodd yn y rôl tan 2018. Yn ystod y cyfnod hwnnw, hyfforddodd yr Alban i fuddugoliaeth hanesyddol gyntaf yn erbyn Lloegr mewn gêm ryngwladol undydd yn 2017.

Treuliodd Bradburn gyfnod byr fel prif hyfforddwr Pacistan yn 2023 cyn ymuno â Morgannwg ar gytundeb tair blynedd ym mis Ionawr 2024.

Arweiniodd Morgannwg i lwyddiant Cwpan Undydd ym mis Medi a gorffen yn bumed yn ail adran Pencampwriaeth Vitality y Siroedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.