Darganfod corff ar draeth yn Nhywyn
25/09/2024
Mae'r heddlu oedd yn chwilio am ddyn o'r Amwythig wedi dod o hyd i gorff ar draeth Tywyn yng Ngwynedd.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r traeth yn dilyn galwad gan aelod o'r cyhoedd.
Dydy'r corff ddim wedi ei adnabod yn ffurfiol hyd yma, ond mae teulu'r dyn sydd ar goll, sydd wedi ei adnabod fel Andrew'n unig gan yr heddlu, yn cael cymorth swyddogion arbenigol.
Mae ar goll o'i gartref ers Medi 21.