Newyddion S4C

Dathlu llwyddiant sêr Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd

26/09/2024
Gemau Olympaidd/Paralympaidd

Bydd llwyddiant sêr Cymru yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ym Mharis dros yr haf yn cael ei ddathlu yn y Senedd ddydd Iau. 

Fe wnaeth 33 o athletwyr Cymreig gymryd rhan y Gemau Olympaidd ym Mharis eleni, gyda 13 o fedalau o bob lliw yn dychwelyd i Gymru, sef y nifer mwyaf o fedalau mae athletwyr yn y Gemau hynny wedi eu hennill erioed.

Fe wnaeth 22 o Gymru gymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd, gan ennill cyfanswm o 16 o fedalau – dwy yn fwy na Gemau Tokyo yn 2020. 

Bydd rhai o sêr chwaraeon mawr yr haf yn rhan o'r digwyddiad, gan gynnwys Ruby Evans, y gymnastwraig gyntaf o Gymru i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ers 1996. 

Dywedodd Ruby: "Roedd hi’n fraint cael bod yn rhan o’r Gemau Olympaidd a chystadlu ochr yn ochr ag unigolion mor dalentog. 

"Rwy’n gobeithio fy mod wedi ysbrydoli pobl i roi cynnig ar gymnasteg ac rwy’n edrych ymlaen at ddod i’r Senedd i fod yn rhan o’r dathliadau gyda holl athletwyr eraill Cymru."

'Breuddwyd'

Roedd Ben Pritchard, o’r Mwmbwls, yn rhan o garfan Tîm Prydain a gyflawnodd eu perfformiad Para Rhwyfo gorau erioed.

Fe wnaeth Ben osod record Baralympaidd newydd yn y rhagbrofion cyn mynd ymlaen i hawlio'r fedal Aur yn y  sgwls sengl PR1. 

"Wyth mlynedd yn ôl gosodais y nod o ennill Medal Aur ym Mharis 2024. Mae cyflawni hynny gyda fy nheulu a ffrindiau yn y dorf yn gwireddu breuddwyd," meddai. 

"Mae gallu cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd yn golygu popeth i mi. Cymru am byth!"

Bydd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd, ac Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru, yn croesawu’r athletwyr i'r Senedd yn y digwyddiad a fydd yn cynnwys perfformiadau cerddorol gan Academi Berfformio Caerdydd a’r band eclectig Wonderbrass hefyd.  

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.