Galw am 'drafodaeth' ar ôl troi capel yng Nghaerfyrddin yn amgueddfa i’r paranormal
Galw am 'drafodaeth' ar ôl troi capel yng Nghaerfyrddin yn amgueddfa i’r paranormal
Mae perchnogion newydd capel yng Nghaerfyrddin eisiau tawelu ofnau ar ôl ei drawsnewid yn amgueddfa i’r goruwchnaturiol.
Laura ac Erik Rowton yw perchnogion newydd Capel Penuel ers mis Awst eleni, a chyn hynny roedd yn gapel i’r Bedyddwyr a adeiladwyd yn wreiddiol yn yr 18fed ganrif.
Gwta fis ar ôl ei werthu mae'r capel wedi ei drawsnewid ac mae bellach yn cynnwys ystafell er mwyn cynnal seance gyda’r meirw a hefyd ystafell sy’n trafod arbrofion seicig.
Dywedodd Laura Rowton, sydd o Swydd Amwythig yn wreiddiol ond bellach yn byw gerllaw, wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi bod yn glir o’r cychwyn cyntaf am eu bwriad i droi'r capel yn amgueddfa o’r fath.
Ond mewn datganiad ar eu gwefan mynegodd perchnogion blaenorol Capel Penuel eu pryderon am y datblygiad.
Fe ddywedon nhw nad oedden nhw’n “ymwybodol o’r bwriad” i droi’r capel yn amgueddfa i’r goruwchnaturiol.
“Dymunwn ddatgan, felly, nad yw’r bwriadau ar gyfer safle’r capel ar gyfer y dyfodol, fel yr ydym yn eu deall, yn cyd-fynd ag ethos, gwerthoedd a chredoau ein heglwys,” medden nhw.
“Hoffem wneud yn glir nad ydym, fel eglwys, yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â’r ‘amgueddfa’ hon.”
‘Gofod saff’
Dywedodd Laura Rowton ei bod hi eisiau trafod gyda nhw er mwyn tawelu eu hofnau.
“Dw i’n credu petai'r perchnogion blaenorol wedi dod a chnocio ar y drws fe fydden ni wedi gallu trafod pethau,” meddai.
“Rydan ni’n darparu lle saff i bobol archwilio eu credoau a dod i sylweddoli fod yna fyd y tu hwnt i’r materol.
“Pan ddaethon ni i weld yr eiddo ym mis Ragfyr fe wnaethon ni’n glir i’r gwerthwr tai beth oedden ni’n bwriadu ei wneud.
“Roedden ni am agor amgueddfa oedd yn ymwneud ag ysbrydolrwydd a llên gwerin a phethau felly.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Capel Penuel: "Rydym fel eglwys yn teimlo bod y cyfan sydd angen ei ddweud am y sefyllfa wedi ei amlinellu yn y datganiad ar ein gwefan.
"Rydym bellach yn canolbwyntio ar ein cenhadaeth, sef i ymestyn allan i’r gymuned gyda’r newyddion da am Iesu Grist.
"Yr hyn sy’n hyfryd gallu dweud yw mai nid symud oherwydd bod niferoedd yn lleihau ydym, ond symud er mwyn hwyluso bywyd a thŵf ein heglwys. Fel y nodwyd yn ein datganiad, nid adeilad yw’r Eglwys, ond corff o bobl.
"Bydd gweinidogaeth a chenhadaeth yr eglwys yn parhau!"
'Gwireddu breuddwyd'
Dywedodd Erik Rowton, sydd o'r Unol Daleithiau, eu bod yn edrych ymlaen at ddyfodol Amgueddfa Rowton i’r Paranormal ac Ysbrydol, a’u bod am arddangos “pob math” o eitemau yno sy’n gysylltiedig â’r byd ysbrydol – o’r goruwchnaturiol a’r paranormal i grefydd a gwyddoniaeth.
“Dymunwn arddangos y cyfan yno,” meddai.
Mae’r pâr yn “gwireddu breuddwyd” gan eu bod bellach gyda safle i allu dangos i bobl y syniad o "ysbrydolrwydd poblogaidd,” gan gynnwys y syniad o ysbrydion.
Dywedodd y cwpwl eu bod nhw wedi gwirioni gyda hanes Capel Penuel, a gafodd ei sefydlu fel Eglwys y Bedyddwyr yn yr 18fed ganrif.
Dywedodd Erik Rowton fod hanes o wyrthiau yno dan arweiniad y Parch W.S. Jones ar ddiwedd yr 19eg ganrif a dechrau’r 20fed.
“Roedd y cyfnod yma’n ddiddorol yn benodol oherwydd doedd dim meddygaeth, roedd gwyddoniaeth yn cael ei anwybyddu ond mi oedd Capel Penuel yn cyflawni gwyrthiau,” meddai.
Roedd gwyrthiau yn digwydd yn y capel yn ddigon rheolaidd fel bod galw i’w adnewyddu yn 1910, fel bod 800 o ymwelwyr yn gallu bod yno ar yr un pryd, meddai.
Mae Mr a Mrs Rowton hefyd yn gobeithio cynnal digwyddiadau yn yr amgueddfa, a ffilmio rhaglenni dogfen.
Mi fyddan nhw hefyd yn cynnal diwrnod arbennig ddydd Sul gan alw ar wirfoddolwyr i’w helpu tacluso’r fynwent gan ei throi yn “ardd heddychlon a pharchu’r bobl sydd wedi eu claddu yno”.