Newyddion S4C

'Rhyddhad' dyn o wybod bod canser arno wedi misoedd o gur pen

25/09/2024
James Greenwood

Mae dyn 42 oed wedi dweud ei fod yn "rhyddhad" cael gwybod fod ganddo diwmor yr ymennydd ar ôl misoedd o gur pen heb ddiagnosis cywir.

Cafodd James Greenwood sydd yn byw yn yr Wyddgrug wybod gan ei feddyg ei fod yn dioddef o feigryn neu yn dioddef o ddiffyg hylif (dehydration) nawr.

Mae bellach wedi cael diagnosis o ganser ar yr ymennydd nad oes modd gwella ohono, a mae disgwyl iddo fyw rhwng 12 ac 18 mis.

"Yn rhyfedd iawn mae wedi bod yn ryw fath o ryddhad i mi," meddai.

"Dwi'n meddwl bod pawb yn euog o gymryd pobl yn ganiataol, eich annwyliaid, ffrindiau, teulu. 

"Ond mae hyn wedi golygu mod i wedi ailgysylltu efo rhai o fy hen ffrindiau. Dwi'n meddwl bod o wedi dod a'r teulu yn agosach." 

Image
James Greenwood
James Greenwood gyda'i gariad, Rachel.

Roedd James Greenwood wedi dechrau dioddef gyda chur pen a chyfnodau o deimlo yn chwil ym mis Mai. 

Fe aeth James, oedd yn arfer bod yn aelod o'r Môr Filwyr i weld ei feddyg teulu ddwywaith.

Ond yna Mehefin 12 fe ddeffrodd gyda "chur pen difrifol" ac fe aeth i'r uned frys.

"Mi wnes i ddyfalbarhau a dweud bod angen sgan arna".  

'Buddiol'

Cafodd wybod wedi'r sgan bod ganddo diwmor ar yr ymennydd. Ar ôl cael llawdriniaeth ym mis Awst daeth y newyddion fod ganddo'r math mwyaf ffyrnig o ganser ar yr ymennydd. 

Mae James yn dweud bod ei hyfforddiant milwrol wedi ei helpu i fod yn obeithiol.

"I fi mae'n ymwneud efo trio bod mor normal â phosib ac mae yna lot o gred mewn meddwl yn bositif am ei fod yn fuddiol iawn i ymladd salwch," meddai.

"Allai ddim ystyried delio efo'r peth mewn unrhyw ffordd arall."

Ychydig ddyddiau yn ôl fe wnaeth o a thri ffrind rhedeg 20 milltir yn y Peak District er mwyn codi arian ar gyfer Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd. Hyd yn hyn maen nhw wedi codi mwy na £14,000.

Mae James wedi dechrau cael cwrs chemotherapi a radiotherapi ac mae disgwyl iddo gael cwrs arall mwy dwys o gemotherapi ddiwedd Hydref.

Lluniau: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.