Syr Alan Bates i gael ei urddo yng Nghastell Windsor
Bydd Syr Alan Bates, y cyn is-bostfeistr o ogledd Cymru, yn cael ei urddo yng Nghastell Windsor ddydd Mercher am ei waith ymgyrchu.
Roedd y dyn 70 oed o Landudno yn un o dros 550 o weithwyr a ddaeth ag achos cyfreithiol yn erbyn Swyddfa'r Post am wallau yn system gyfrifiadurol Horizon rhwng 2017 a 2019.
Cafodd ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Brenin ym mis Mehefin am ei wasanaethau i gyfiawnder, ar ôl sefydlu Cynghrair Cyfiawnder yr Is-bostfeistri.
Wrth ymateb ym mis Mehefin dywedodd Syr Alan bod y gwaith o glirio enwau cannoedd o is-bostfeistri a fu'n rhan o un o gamweinyddiadau cyfiawnder mwyaf yn hanes y DU yn anodd.
Gwrthod
"Mae'n anrhydedd enfawr - i dderbyn cydnabyddiaeth am y gwaith dwi wedi gwneud dros y blynyddoedd," meddai.
"Mae wedi bod yn waith anodd iawn dros nifer o flynyddoedd."
Derbyniodd y sgandal Swyddfa'r Post sylw cenedlaethol yn dilyn darlledu drama ITV 'Mr Bates vs The Post Office'.
Roedd y ddrama’n darlunio stori Mr Bates wrth iddo geisio datgelu’r gwir am anghysondebau cyfrifo yn ystod ei gyfnod fel is-bostfeistr.
Fe wnaeth Syr Alan wrthod derbyn OBE yn gynharach eleni tra bod cyn Brif Weithredwr Swyddfa'r Post Paula Vennells wedi cadw ei CBE oherwydd ei fod yn "teimlo’n anghywir" iddo dderbyn.
Fe wnaeth Ms Vennells ddychwelyd ei CBE ym mis Chwefror eleni.
Llun: PA