Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd yn colli dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf ers Hydref 2019

25/09/2024
Y Seintiau Newydd v Y Bala

Mae'r Seintiau Newydd wedi colli dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf ers Hydref 2019 - cyfnod o 1,817 diwrnod.

Collodd y Seintiau yn Neuadd y Parc yn erbyn Y Bala nos Fawrth ar ôl dwy gôl ym munudau ola'r gêm gan Y Bala.

Daeth y canlyniad ychydig ddyddiau wedi iddyn nhw golli yn erbyn Penybont, sydd ar frig y Cymru Premier JD.

Fe fydd y clwb yn herio Fiorentina yng Nghyngres Europa UEFA mewn ychydig dros wythnos.

'Dim yn ddigon da'

Ar ôl y chwiban olaf nos Fawrth dywedodd rheolwr y Seintiau, Craig Harrison eu bod nhw'n haeddu cael eu barnu am y canlyniadau.

"Dwi wedi siomi yn fwy nag unrhyw beth arall. Siom, rhwystredigaeth, dicter i gyd gyda'i gilydd," meddai wrth Sgorio.

"Roedd pawb yn hapus i dderbyn y clod fis yn ôl ar ôl i ni greu hanes a chyrraedd Ewrop. Ond mae rhaid i ni dderbyn bod y perfformiad yn erbyn y Bala ddim yn ddigon da.

"I fod yn onest dyw e ddim yn ddigon da, mae rhaid i ni wneud yn well a derbyn y feirniadaeth rydym ni'n ei derbyn.

" 'Dan ni'n hapus i dderbyn y clod felly mae rhaid i ni dderbyn y feirniadaeth achos ar sail y ddwy gêm ddiwethaf, 'da ni'n haeddu cael ein barnu."

Roedd canlyniad annisgwyl arall yn y Cymru Premier JD nos Fawrth wrth i Lansawel, sydd heb ennill eto, guro Penybont oddi cartref.

Roedd gemau cyfartal rhwng Cei Connah a'r Drenewydd a Hwlffordd a'r Barri.

Enillodd Met Caerdydd oddi cartref yn Aberystwyth sydd yn golygu bod y myfyrwyr yn symud i'r ail safle.

Llun: Y Seintiau Newydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.