Newyddion S4C

Phillip Schofield yn ôl ar y sgrin?

25/09/2024
Phillip Schofield

Mae adroddiadau bod Phillip Schofield yn mynd i ymddangos eto ar y teledu.

Yn ôl The Sun mae wedi bod yn ffilmio rhaglen lle mae'n cael ei adael ar ynys am 10 diwrnod ac yn gorfod ceisio goroesi.

Dyw Schofield ddim wedi cael ei weld ar y sgrin ers iddo adael ei swydd fel cyflwynydd This Morning ar ITV ym mis Mai 2023.

Roedd wedi cael perthynas tu allan i'w briodas gydag aelod arall o staff.  

Mae disgwyl i'r rhaglen fydd yn ymddangos ar Channel 5 gael ei darlledu nos Lun. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.