Newyddion S4C

Cyfarfod i drafod dyfodol Ysbyty Cymunedol Tregaron

25/09/2024
Ysbyty Tregaron

Fe fydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Iau i drafod dyfodol Ysbyty Cymunedol Tregaron.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Hywel dda gynnal ymgynghoriad ym mis Awst ynglŷn â chau'r ysbyty sydd a naw gwely yno.

Yn ôl y bwrdd mae lefel annigonol o staffio yn ei gwneud hi’n "heriol" i ddarparu gofal i gleifion yn yr ysbyty.

Yn sgil y trafodaethau i gau'r ysbyty roedd Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynllun Cylch Caron, sef adeiladu canolfan iechyd newydd yn yr ardal.

Mae’r prosiect yn cynnig "model gofal newydd, fyddai’n symud gofal i gleifion o’r ysbyty cymunedol i’w cartrefi."

Dywedodd Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Meddyg Teulu lleol Tregaron ar y pryd bydd gan y cynllun nifer o fuddion i bobl leol.

"Mae'r Ganolfan yn brosiect cyffrous ac unigryw sy'n ceisio cynnig llawer o gyfleoedd a buddion i bobl yn yr ardal," meddai.

"Bydd hyn yn dod ag ystod o wasanaethau ynghyd mewn canolfan ganolog ar gyfer Tregaron a'r ardaloedd gwledig cyfagos."

Bydd y ganolfan iechyd yn cynnwys meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau cleifion allanol a chyfleusterau nyrsio cymunedol a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd fflatiau gofal ychwanegol ac unedau iechyd a gofal cymdeithasol.

'Ar draul anghenion cleifion'

Mae Peter Skitt, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud nad yw lefel bresennol staffio yn yr ysbyty yn ddigonol.

Mae Elin Jones, Aelod Senedd Cymru dros Geredigion wedi dweud ni ddylai adolygu'r sefyllfa yn yr ysbyty ddigwydd ar draul y rhai sy'n derbyn gofal yno.

"Mae wedi bod yn sioc i glywed y newyddion yma mis diwethaf gan y Bwrdd Iechyd," meddai.

"Gwyddom fod recriwtio yn un o brif heriau’r Bwrdd Iechyd, ac yng Ngheredigion ehangach hefyd ar hyn o bryd.

"Mae hyn yn rhoi rhagor o bwysau ar y staff sydd yno, felly mae’n ddealladwy fod angen adolygu’r sefyllfa ond mae’n hynod o bwysig fod hyn ddim yn digwydd ar draul anghenion y cleifion a’u teuluoedd."



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.