Newyddion S4C

Tad i dri o’r Cymoedd wedi marw ar ymweliad â dinas Prague

24/09/2024
David Richards

Mae tad i dri o’r Cymoedd wedi marw ar ymweliad â dinas Prague yn y Weriniaeth Tsiec. 

Bu farw David ‘Dai’ Richards, 31 oed, o Aberpennar mewn ymosodiad honedig ddydd Sadwrn tra'r oedd yno ar gyfer parti stag cyfaill iddo.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Národní Třída o'r ddinas, yn ôl gwasanaeth newyddion lleol Prague Morning.

Yn ôl adroddiadau, fe wnaeth dyn ddefnyddio potel o fodca fel arf i daro Mr Richards yn ystod y digwyddiad.

Bu farw'n ddiweddarach o'i anafiadau yn yr ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, Jan Daněk, ei fod yn ymddangos bod dau griw o ymwelwyr wedi bod yn mwynhau cwmni ei gilydd am gyfnod. 

“Ar y dechrau, roedd popeth yn dawel, ac roedd y twristiaid yn sgwrsio’n normal. Yna, dechreuodd dadl rhyngddynt," meddai Mr Daněk.

Dywedodd teulu Mr Richards ei fod wedi marw yn yr ysbyty wedi’r ymosodiad “digymell”.

Roedd yn bartner i Jola Simms ac yn dad i Aurora, pedair oed, Bear, dwy oed, a Vienna, un oed. 

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Clwb Rygbi Abercynon: “Rydym yn anfon ein cydymdeimladau dwysaf i deulu’r Richards – yn enwedig Jola, ei phlant, ac ein cyd-chwaraewr Matthew. 

“Mae’r byd wedi colli dyn da – tad, mab, a brawd.

“Roedd Dai wedi cyffwrdd ar fywydau nifer o bobl sydd ynghlwm a’r clwb ac rydym wedi ein syfrdanu gan y golled ofnadwy hon.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: “Rydym yn cefnogi teulu dinesydd o Brydain sydd wedi marw yn y Weriniaeth Tsiec.”

Mae tudalen codi arian wedi cael ei sefydlu ar ran chwaer Jola, sef Jodie, er mwyn “lleddfu pwysau’r” teulu yn ystod y “cyfnod heriol hwn.” Mae dros £7,000 eisoes wedi’i godi er cof am Mr Richards.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.