Newyddion S4C

Staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn pryderu am doriadau wrth i'r corff wynebu 'cyfnod heriol'

24/09/2024

Staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn pryderu am doriadau wrth i'r corff wynebu 'cyfnod heriol'

Mae'n gyfnod heriol medd y corff sy'n gofalu am ein hamgylchedd.
 
Bu sylw yn barod i'r bygythiad i gaffis a siopau mewn canolfannau ymwelwyr.
 
Mae dogfennau ar-lein yn datgelu be arall sy'n wynebu'r fwyell.
 
Gwasanaethau fel llyfrgell y corff yn eu swyddfa ym Mangor.
 
"Dw i'n siomedig iawn dysgu am y sôn am gau'r peth i lawr.
 
"Mae'n adnodd anhygoel i unrhyw un sydd gan ddiddordeb yn y byd natur.
 
"Mae 'na gasgliad anferth yna o bethe defnyddiol."
 
Bydd 'na dorri nôl ar y gwaith o ddylanwadu polisi a chynghori ar newid hinsawdd, llai o adnoddau rheoli treftadaeth a hyd yn oed taclo troseddau gwastraff.
 
Bydd nifer staff sy'n canolbwyntio ar lygredd afon yn cynyddu.
 
Rhybuddio mae undeb Unison ac elusennau amgylcheddol y gallai'r ailstrwythuro olygu nad oes gan y rheoleiddiwr ddigon o weithwyr ar lawr gwlad i warchod natur.
 
"Mae tipyn o doriadau i ddod yn y cyhoeddiadau ynghylch tystiolaeth.
 
"Boed e'n dystiolaeth bolisi neu erlid trosedd amgylcheddol.
 
"Mae toriadau i addysg, cyflwyno natur a byd natur i bobl ifanc a hŷn.
 
"Gallent fod yn niweidiol iawn i'r amgylchedd yng Nghymru."
 
Ni 'di siarad â rhai o staff presennol a chyn-staff sy'n honni bod 'na deimladau o bryder a dicter o fewn y gweithlu.
 
Maen nhw hefyd yn feirniadol o'r angen am doriadau mor llym o gofio bod y llywodraeth wedi datgan argyfyngau newid hinsawdd a natur yn ddiweddar.
 
Mewn datganiad mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud eu bod nhw'n gwneud pob ymdrech posibl i warchod y rhannau o'r gwaith sy'n cael y mwyaf o ddylanwad ar natur, newid hinsawdd a llygredd.
 
Mae rheolwyr yn llwyr ddeall effaith y sefyllfa ar gydweithwyr ac mae cymorth ar gael.
 
Bydd 'na gyfnod o ystyried yr ymateb i'r ymgynghoriad cyn i'r cynlluniau arbedion terfynol gael eu cyflwyno i Fwrdd y corff ganol mis nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.