Mwy na hanner sesiynau cwnsela Childline yn ymwneud â iechyd meddwl

ITV Cymru
plentyn

Mae ystadegau’n dangos bod mwy na hanner y sesiynau gafodd eu cynnal gan Childline yng Nghymru rhwng 2024 a'r llynedd yn ymwneud yn bennaf â iechyd meddwl a phryderon iechyd emosiynol.

Rhwng Mawrth 2024 a Ebrill 2025, fe wnaeth y gwasanaeth, sy’n cael ei redeg gan yr NSPCC, gynnal 4,320 sesiwn gwnsela ar gyfer pobl ifanc ar hyd a lled Cymru.

O’r rheiny, nododd 56% o’r plant a gysylltodd â Childline, fod ganddyn nhw drafferthion iechyd meddwl.

Mae hyn yn cyfateb i bron i saith sesiwn gwnsela y dydd ar gyfer iechyd meddwl yn benodol.

Y pryderon mwyaf cyffredin oedd gorbryder, iselder, straen, hunan-niwed a meddyliau a theimladau am hunanladdiad.

Yn ôl Childline, mae'r data hyn yn dangos y pwysau ar bobl ifanc, yn enwedig yn yr oes ddigidol sydd yn rhan enfawr o fywydau cynifer ohonynt. 

Mae un person ifanc o Gymru wedi rhannu gyda’r gwasanaeth: “Rydw i dan bwysau ac yn poeni am fy iechyd meddyliol.

"Rydw i’n poeni os nad ydw i’n delio gyda hyn, ni fyddaf yn llwyddo mewn bywyd.” 

Ar Lein

Mae data Ofcom yn awgrymu bod plant bellach yn treulio’n agos at deirawr y dydd ar ddyfeisiau, gan godi i bron i chwech awr ar gyfer oedolion ifanc.

Mae cynghorwyr wedi dweud eu bod yn clywed yn fwy cyson gan bobl ifanc sy’n teimlo’n gaeth i arferion digidol niweidiol.

Dywedodd Shaun Friel, Cyfarwyddwr Childline, bod iechyd meddwl yn un o’r problemau mwyaf dybryd y mae pobl ifanc yn ei wynebu ar draws Cymru a’r DU.

“Mae treulio oriau pob dydd ar-lein, a bod yn agored i gymhariaeth, negyddiaeth a phwysau i gyflwyno fersiwn berffaith ohonoch chi'ch hun, yn cael effaith negyddol," meddai.

Mae Childline yn cynnig cymorth cyfrinachol rhad ac am ddim ar y ffôn ar 0800 1111 neu drwy sgwrs ar-lein drwy wefan Childline. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.