Canser y prostad yw'r 'mwyaf cyffredin' yn y DU

prawf gwaed canser y prostad

Canser y prostad yw'r un mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig bellach, yn ôl ystadegau newydd. 

Yn ôl ffigyrau gan elusen Prostate Cancer UK, cafodd 64,425 o ddynion ddiagnosis yn 2022, o gymharu â 61,640 a gafodd ddiagnosis canser y fron, sef y canser mwyaf cyffredin cyn yr ystadegau diweddaraf yma.

Mae'r ffigyrau ar gyfer canser y prostad 24% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, pan gafodd 51,823 o ddynion ddiagnosis, yn ôl yr elusen. 

Canser y prostad oedd yr un mwyaf cyffredin yn Lloegr fis Ionawr diwethaf, ac yn sgil y ffigyrau diweddaraf o Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r darlun wedi ei gyhoeddi ar gyfer y Deyrnas Unedig.   

Yn ôl Prostate Cancer UK, bu 42% o gynnydd yn y degawd diwethaf oherwydd bod mwy o ymwybyddiaeth am y clefyd.  

Mae'r elusen yn galw ar y Gwasanaeth Iechyd i fabwysiadu rhaglen sgrinio ehangach gan ddefnyddio prawf antigen (PSA) yn benodol.  

Mae'r elusen hefyd yn cynnal arbrawf eang, gyda disgwyl i gasgliadau gael eu cyhoeddi o fewn dwy flynedd. Maen nhw'n ystyried a fyddai'n fuddiol i gyfuno'r profion PSA gyda phrofion eraill fel sganiau MRI. 

'Siomi'

Fis Rhagfyr, dywedodd Pwyllgor Sgrinio'r Deyrnas Unedig, sy'n cynghori Llywodraeth y DU, na ddylai sgrinio ar gyfer canser y prostad fod ar gael ar gyfer mwyafrif llethol y dynion yn y DU.

Yn hytrach, nododd y pwyllgor y dylid sgrinio dynion gyda mwtaniad (mutation) BRCA1 a BRCA2, sef lefel risg uwch, bob dwy flwynedd rhwng 45 a 61 oed.

Ond wedi iddyn nhw gael diagnosis o ganser y brostad mae nifer o ffigyrau cyhoeddus wedi gwrthwynebu'r argymhelliad hwn.

Mae'r rheiny'n cynnwys y seiclwr ac enillydd medal aur Olympaidd Syr Chris Hoy, y cyn-brif weinidog yr Arglwydd David Cameron, y darlledwr Syr Stephen Fry a'r actor o gyfres teledu boblogaidd Blackadder, Syr Tony Robinson.

Dywedodd elusen Prostate Cancer Research eu bod o blaid rhaglen sgrinio ehangach, tra bod Cancer Research UK yn dweud eu bod yn cytuno gyda phenderfyniad y Pwyllgor Sgrinio'r Deyrnas Unedig.

Mae Prostate Cancer UK yn dweud eu bod wedi "siomi" gyda'r penderfyniad hwnnw ond eu bod yn benderfynol o newid hynny drwy gyflwyno rhagor o waith ymchwil a thystiolaeth.

 

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.