Canllawiau newydd powdwr caffein wedi marwolaeth dyn o'r gogledd
Mae canllawiau newydd i ddefnyddwyr cynnyrch fel powdwr caffein wedi eu cyhoeddi yn dilyn marwolaeth dyn o ogledd Cymru.
Fe fuodd y dyn farw ar ôl camgyfrifo faint yr oedd fod i’w ddefnyddio.
Fe all cynnyrch fel powdr caffein fod yn “hynod gryf” meddai'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Maent yn cynghori defnyddwyr i ddilyn y cyfarwyddiadau dos ar y label bob tro a defnyddio offer mesur cywir.
Daw’r canllawiau ar ôl i’r hyfforddwr personol Tom Mansfield o Fae Colwyn farw ym mis Ionawr 2021 ar ôl cymryd powdr caffein cyfwerth â hyd at 200 paned o goffi mewn camgymeriad.
Ym mis Mawrth 2022 fe wnaeth crwner gofnodi fod Mr Mansfield wedi marw drwy anffawd.
Roedd Mr Mansfield yn 29 oed ac yn dad i ddau o blant.
Camgymeriad
Roedd wedi prynu'r powdwr dros y we, ond fe wnaeth gamgymeriad wrth gyfrif maint yr hyn yr oedd ei angen ei gymryd.
Mewn lefelau uchel iawn, gall caffein achosi pryder, diffyg cwsg, cynnwrf, gor-guriadau'r galon, dolur rhydd ac anesmwythder, tra gall unigolion â chyflwr iechyd meddwl brofi seicosis.
Gall yr effeithiau hyn fod yn fwy difrifol mewn unigolion sy'n sensitif i gaffein, neu sydd â phroblemau iechyd sylfaenol fel clefyd y galon neu bwysau gwaed uchel.
Risg
Dywedodd prif ymgynghorydd gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr Athro Robin May: “Er bod caffein i’w gael yn naturiol mewn llawer o gynhyrchion bwyd, mae gennym dystiolaeth nad yw pobl yn ymwybodol o’r lefelau uwch o gaffein mewn rhai atchwanegiadau a’r risg y gall hyn ei achosi.
“Gall cynnyrch caffein pur a dwys iawn fel powdr caffein fod yn hynod o rymus, felly dylech bob amser ddilyn y cyfarwyddiadau dos ar y label a defnyddio offer mesur priodol i wneud yn siŵr ei fod yn gywir.
“Os yw pobl yn dioddef sgîl-effeithiau caffein, fel diffyg cwsg a chynnwrf, dylent ystyried faint o gaffein y maent yn ei gael o atchwanegiadau yn ogystal â chydrannau eraill o'u diet.
“Rydym hefyd yn argymell bod menywod beichiog yn cyfyngu ar eu defnydd o gaffein bob dydd i 200mg – sy’n cyfateb yn fras i ddau fwg o goffi parod neu un mwg o goffi ffilter – a gwiriwch y label i gael rhybudd y gallai’r cynnyrch fod yn anaddas."