Newyddion S4C

Dyn a gollodd ei frawd mewn ymosodiad â chyllell yn croesawu gwaharddiad newydd

ITV Cymru 24/09/2024
Rheolau Cyllyll

O ddydd Mawrth ymlaen mae hi’n anghyfreithlon i fod yn berchen ar gyllyll 'zombie' a machetes yn dilyn newid i'r gyfraith.

Mae’r mathau hyn o gyllyll wedi cael eu hychwanegu at restr waharddedig o eitemau peryglus yng Nghymru a Lloegr.

Roedd y rhai oedd â chyllyll 'zombie' a machetes yn eu meddiant wedi eu hannog i’w rhoi i orsafoedd yr heddlu cyn i waharddiad ar yr arfau gael ei gyflwyno.

Roedd y cyfnod amnest yn rhedeg rhwng 26 Awst a 23 Medi mewn gorsafoedd heddlu ar draws Cymru a Lloegr.

Fe welwyd 466 o droseddau yn ymwneud â chyllyll yn ardal Heddlu Gwent yn unig llynedd.

Croesawu'r rheolau newydd

Mae’r gwaharddiad wedi ei groesawu gan rai sy’n galw am reolau llymach, gan gynnwys Gerard Bermingham a gollodd ei frawd ym mis Mehefin 2024. 

Cafodd Adrian ei drywanu wrth gerdded adref ar ôl noson allan gyda’i ffrindiau ar Stryd Carddock, Caerdydd.

Fe wnaeth yr ymosodwr, Ryan Voisey drywanu Adrain a gadael y lleoliad ar ôl dwyn ei waled. 

Dywedodd Gerard Bermingham wrth ITV Cymru: “Pan mae’n digwydd i’ch teulu chi’n meddwl taw hynny yw’r tro olaf bydd rhywbeth fel hynny’n digwydd, ac mai ni yw’r rhai anlwcus, ond chi’n gweld ei fod yn digwydd yn fwy aml. 

“Mae'n dod yn fwy cyffredin ac mae wedi dod yn beth normal i blant, mae'n ymddangos eu bod nhw’n meddwl bod cyllyll yn rhywbeth dylech chi fod yn cario, ac nid yw hynny’n wir.”

Image
cyllyll

Mae Gerdard eisiau annog pobl feddwl dwywaith cyn bod a chyllell yn eu meddiant. 

“Bob dydd chi’n cario cyllell, bob dydd chi yn unrhyw le yn agos i gyllyll, chi’n chwarae gyda marwolaeth", meddai.

Mae wedi ymuno gyda’r grŵp ‘Put Down The Knives' (PDTK) i addysgu pobl ifanc am beryglon cario arfau. 

Sefydlwyd PDTK yn dilyn marwolaeth Harry Baker, oedd yn 17 oed. 

Fe gafodd Harry ei drywanu naw gwaith yn ardal Y Bari ym mis Awst 2029. 

Cafodd chwe dyn a llanc eu dedfrydu i gyfanswm o 119 mlynedd yn y carchar am lofruddiaeth Harry. 

Mae gorsaf Heddlu Canol Casnewydd yn un o’r canolfannau sydd wedi annog pobl i roi cyllyll i'w swyddogion eu diogelu.

Mae cyllyll cegin, bwyell, a chleddyfau samurai wedi’u rhoi i swyddogion hefyd. 

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Carl Williams: “Rydym yn gweld pobl ifanc yn defnyddio cyllyll yn rheolaidd iawn.

"Ein neges yw peidiwch â defnyddio cyllyll yn ein cymuned."

O ddydd Mawrth fe fydd cosbau llymach i’r rhai sydd â chyllyll o’r fath yn eu meddiant. 

Lluniau gan ITV Cymru



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.