Newyddion S4C

Cais i ddatblygu safle siop hanesyddol yn Ninbych-y-pysgod i westy a bwyty

24/09/2024
TP Hughes

Mae cynlluniau i ddatblygu safle hen siop hanesyddol yn Ninbych-y-pysgod i westy sba a bwyty wedi'u cyflwyno.

Mae cais a gyflwynwyd i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro drwy’r asiant Gerald Blain Associates Limited, yn gobeithio newid safle hen siop TP Hughes ar Stryd Fawr y dref i westy sba 17 gwely, bwyty a chaffi/bar.

Mae gan yr eiddo ddau adeilad bob ochr i Heol St Nicolas, wedi'u cysylltu gan bont Edwardaidd ar y llawr cyntaf sy'n ymestyn dros y ffordd.

Roedd siop adnabyddus TP Hughes yn masnachu yn yr eiddo rhwng 1902 a 2017, ac mae’r enw TP Hughes yn dal i’w weld ar yr adeilad mewn ffenestr yno.

Mae’r safle, a oedd yn cael ei redeg yn fwy diweddar gan y cwmni gwerthu dillad M&Co, cyn iddynt gyhoeddi eu bod yn cau y llynedd, hefyd o fewn ardal gadwraeth y dref, drws nesaf i dri adeilad rhestredig.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.