Protestiadau mwyaf Ciwba ers tri degawd

Mae protestiadau mwyaf mae Ciwba wedi ei weld ers tri degawd wedi bod yn achosi dinistr a thrafferthion ar hyd y wlad.
Mae carfanau o bobl ar draws yr ynys yn gwrthwynebu’r llywodraeth gomiwnyddol, a’r ffordd maent wedi ymateb i argyfwng Covid-19.
Dechreuodd y protestiadau yn nhref orllewinol, San Antonio de la Baños, ac yn y ddinas ddwyreiniol Palma Soriano fore Sul.
Erbyn y prynhawn roedd miloedd o ddinasyddion yn y brifddinas, Havana, wedi dechrau protestio yn ôl The Guardian, gan ymbil am ddiwedd i unbeniaeth yn y wlad.
Roedd y dorf hefyd yn protestio yn erbyn prinder bwyd a phrisiau tanwydd uchel yn y wlad, a bu gwrthdarro rhwng rhai o’r protestwyr â’r heddlu a chefnogwyr y llywodraeth gomiwnyddol.
Darllenwch y stori’n llawn yma.