Cyhoeddi enwau mam a'i merch anabl fu farw mewn eiddo ym Manceinion
Mae’r heddlu wedi cadarnhau mai dynes o’r enw Martina Karos a’i merch anabl Eleni Edwards fu farw ym Manceinion ddydd Llun.
Fe gafodd y fam 40 oed a’i merch wyth oed eu canfod toc wedi 10.30 mewn eiddo ar Stryd De Radford yn Salford, meddai Heddlu Manceinion.
Mae swyddogion yr heddlu yn parhau yn yr ardal ac mae’r llu eisoes wedi cadarnhau nad yw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Charlotte Whalley bod ei meddyliau a’r tîm ymchwilio cyfan “gyda theulu Martina ac Eleni.”
“Mae’n golled drasig, ac ein prif flaenoriaeth yw diweddaru eu hannwyliaid yn ystod yr ymchwiliad,” meddai.
Cafodd Martina Karos ei disgrifio fel mam “gariadus ac ymroddgar” i’w merch gan un o’i chymdogion.
Dywedodd y cymydog, oedd ddim am gael ei enwi, bod y ddwy o dras Pwyleg ac Eidaleg.
Mae rhai cymdogion hefyd wedi bod yn casglu arian er mwyn prynu blodau er cof y fam a’r ferch.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Salford eu bod yn cydweithio gyda’r heddlu gyda’u hymchwiliad.
Llun: Pat Hurst/PA Wire