Y Gymraeg yn derbyn statws gwarchodedig o fewn Heddlu'r Gogledd
Y Gymraeg yn derbyn statws gwarchodedig o fewn Heddlu'r Gogledd
Mae’r iaith Gymraeg wedi derbyn statws gwarchodedig o fewn Heddlu Gogledd Cymru gyda’r nod o gryfhau’r ddarpariaeth dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Yn ôl y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman, sydd hefyd yn dysgu’r iaith, mae’r Gymraeg yn flaenoriaeth iddi a hithau‘n dweud bod angen sicrhau bod "arweinwyr y dyfodol" yn rhugl.
Ar hyn o bryd mae o leiaf 40% o staff y llu yn medru sgwrs yn y Gymraeg a 36% yn rhugl.
Yn ôl swyddogion sy’n gweithio mewn cymunedau, mae’r cyfle i ddioddefwyr gyflwyno tystiolaeth yn eu mamiaith yn holl bwysig.
Yn byw a gweithio yng Nghaernarfon mae Jordan Jones, un o swyddogion heddlu’r gogledd yn dweud na fyddai modd plismona’r gymuned yn effeithiol heb y Gymraeg.
“Mae Caernarfon yn lle unigryw, gei di drafferth yma ffeindio rhywun sydd ddim yn siarad Cymraeg," meddai.
“Da ni’n delio efo lot o achosion sydd yn eithaf creulon ac yn ofnadwy o emosiynol felly dwi’n meddwl fod hi’n bwysig fod aelodau’r cyhoedd yn teimlo’n gyffyrddus pan ma nhw’n siarad efo ni am rheini.
“Dwi’m yn meddwl swni’n gallu gwneud y swydd dwi’n neud yma heb bo fi’n gallu siarad Cymraeg”.
'Iaith brydferth'
Yn ôl Heddlu’r Gogledd mae gosod statws gwarchodedig dros y Gymraeg am sicrhau nad oes unrhyw un o fewn y gweithlu "dan anfantais".
Tra bod gan y Gymraeg eisoes a statws cydradd a’r Saesneg mae dynodi’r statws newydd yn gyfle i sicrhau tegwch chyfleoedd y ôl y Prif Gwnstabl, Amanda Blakeman.
“Dwi eisiau i weithwyr newydd allu sefyll eu harholiadau mynediad drwy’r Gymraeg a Saesneg felly does na’m rhaid iddyn nhw wedyn gyfieithu o un iaith i’r llall," meddai.
“Dydy nhw ddim wedyn dan anfantais- mae hynny’n rhan ohono.
“Ond rhan arall o hynny ydi sicrhau bod gyda ni arweinwyr yn y dyfodol sy’n iaith gyntaf Cymraeg felly bendant 'da ni am sicrhau nad ydi unrhyw un o’n systemau o gynnig dyrchafiadau ddim yn heriol i siaradwyr Cymraeg."
'Balch'
Er na fydd rhagor o gyllid i’r prosiect, mae’r llu yn dweud mai cyfle i newid agweddau a systemau yw hyn er mwyn cefnogi’r gweithlu Cymraeg a’r Prif Gwnstabl sy’n wreiddiol o Ganolbarth Lloegr hefyd yn dysgu’r iaith.
“Dwi wir yn mwynhau, ma’n dda iawn," meddai.
“Ma’n iaith brydferth a dwi wir yn teimlo mor falch o fyw yng Nghymru, o weithio mewn gweithlu Cymraeg a chymuned Gymraeg.
“Mae pobl wir yn helpu, yn cymryd amser a dwi mor werthfawrogol."
Erbyn hyn mae’n rhaid i bob swydd o fewn y llu gael rhyw lefel o ddealltwriaeth o’r Gymraeg a Heddlu’r Gogledd yn mynnu fod cefnogaeth a llwybrau dysgu i un rhywun sydd am ddatblygu hynny.