Merch o Wynedd yn dringo’r Wyddfa i dynnu sylw at ei chyflwr prin
Mae merch naw oed o bentref Chwilog yng Ngwynedd a gafodd wybod ei bod yn byw gyda chyflwr genetig prin eleni wedi dringo’r Wyddfa er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr.
Fe gafodd Cadi ddiagnosis o Syndrom Turner yn ddwy oed – sef cyflwr sy’n effeithio menywod a merched yn unig, gan effeithio’r groth yn bennaf.
Wedi iddi ddechrau cwestiynu pam yr oedd yn rhaid iddi ymweld â’r ysbyty yn rheolaidd fel rhan o’i bywyd bob dydd, fe benderfynodd rhieni Cadi rhoi gwybod iddi am ei chyflwr yn gynharach eleni.
“Odd hi’n reit ddistaw am y ddau ddiwrnod cynta” esboniodd ei mam, Bethan Jones wrth siarad â Newyddion S4C.
“Ond wedyn ‘nath hi jyst dod allan a deud: ‘Dwi eisiau cerdded o Chwilog i fyny’r Wyddfa’ – ddim yn sylweddoli bod e’n 30 milltir i gyrraedd yr Wyddfa cyn mynd i fyny!”
Ond roedd ei rhieni yn “reit falch ei bod hi ‘di gofyn” a gyda chwmni ei mam, ei chefnder, ei ffrindiau a’u mamau, fe lwyddodd Cadi i gwblhau’r her o ddringo’r Wyddfa ddydd Sadwrn, gan godi bron i £2,000 tuag at elusen Turner Syndrome Society a Chlwb Gymnasteg Eryri.
Fe aeth yr her yn “dda,” meddai Cadi wrth siarad â Newyddion S4C, er ei bod “dipyn bach yn anodd.”
“’Da ni’n reit prowd bod hi ‘di penderfynu gwneud yr her a bod hi ‘di actually 'neud yr her heb dim cwyno na dim byd,” meddai ei mam.
'Dallt mwy'
Fe allai pobl sy’n byw â chyflwr Syndrom Turner wynebu problemau wrth dyfu, yn ogystal â dioddef problemau ar y galon a’r arennau.
Mae Cadi wedi treulio cyfnodau yn gwisgo teclyn cymorth clyw yn sgil ei chyflwr ac mae’n rhaid iddi gael profion gwaed rheolaidd.
Dywedodd ei mam bod yr her o ddringo’r Wyddfa wedi galluogi Cadi i ddeall mwy am ei chyflwr, gan godi ymwybyddiaeth er lles pobl eraill hefyd.
“Dyw lot o bobl ddim yn deall y cyflwr felly maen neis bod hi di gallu siarad efo’i ffrindiau,” meddai Bethan Jones.
“‘Da ni’n teimlo bod hi ‘di cymryd hi’n dda iawn. Bod ni di deutha hi a mae ‘di helpu hi.
“Mae’n dallt mwy ‘wan am pam mae’n gorfod mynd i'r hospital a ballu.”
'Penderfynol'
Mae Cadi yn parhau’n “benderfynol” yn ei hymgyrch i godi arian, a hithau’n gobeithio codi £1,000 yr un ar gyfer elusen Turner Syndrome Society a Chlwb Gymnasteg Eryri.
Mae’r ddau sefydliad wedi bod yn “help mawr” iddi hi a’i theulu, gyda Cadi yn treulio tair awr bob dydd Sul yn ei chlwb gymnasteg.
Dywedodd Ms Jones y byddai’r teulu wedi bod “ar goll” heb gymorth yr elusen hefyd, gan eu bod wedi ateb unrhyw gwestiynau mae’r teulu wedi ei ofyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Cadi yn gobeithio cynyddu ei tharged o £2,000 dros y penwythnos ond mae’n awyddus i gyflawni her ar raddfa fwy eto, esboniodd ei mam.
“Pan ddaethon ni lawr yr Wyddfa ‘nath Cadi ddweud mai’r un nesa ydy Everest – felly aiming high!
“Dwi’n siŵr y byddwn ni’n neud mwy eto,” meddai.