Pa addewidion wnaeth Keir Starmer i'w gynhadledd Lafur gyntaf fel Prif Weinidog?
Pa addewidion wnaeth Keir Starmer i'w gynhadledd Lafur gyntaf fel Prif Weinidog?
Mae’r Prif Weinidog Keir Starmer wedi addo creu “Prydain newydd” yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog yn Lerpwl.
Dywedodd ddydd Mawrth y byddai'r DU newydd yn cael ei hadeiladu “o’r ysbryd oesol hwnnw o greadigrwydd a menter, a balchder ac uchelgais gweithwyr”.
Roedd gan ei Lywodraeth “dargedau clir, mesuradwy”, meddai, gan gynnwys:
- Cwmni newydd GB Energy yn Aberdeen a fydd yn gyrru datblygiadau ynni glân y DU.
- Tai ar gyfer pob cyn filwyr sy’n ddigartref.
- Galw am roi’r gorau i ryfela rhwng Libanus ac Israel a chadoediad yn Gaza.
- Cyfraith Hillsborough a fydd yn cyflwyno dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i fod yn ddidwyll, gyda sancsiynau troseddol os ydyn nhw’n camarwain ymchwiliadau.
Beth ddywedodd am daliadau tanwydd?
Fe wnaeth Keir Starmer amddiffyn ei benderfyniad “amhoblogaidd” i dorri daliadau tanwydd i bensiynwyr.
“Pe baen nhw’n boblogaidd, fe fydden nhw’n hawdd, ond byddai’r gost o lenwi’r twll du hwnnw yn ein cyllid cyhoeddus yn cael ei rannu’n deg.”
Dywedodd y Prif Weinidog mai'r cam cyntaf tuag at wireddu dymuniadau’r llywodraeth oedd “sefydlogi ein heconomi”.
“Ond fe fydd yn anodd,” meddai.
“Nid rhethreg yw hynny, mae'n realiti. Mae yna £22 biliwn o ymrwymiadau gwariant heb eu hariannu a chafodd eu cuddio oddi wrth ein gwlad gan y Torïaid.”
Beth ddywedodd am fewnfudo?
Dywedodd bod mewnfudo yn gallu tanseilio ymdrechion pobl ifanc i ddod o hyd i waith.
Ychwanegodd fod yna wahaniaeth rhwng pobl oedd yn pryderu am fewnfudo a’r bobl fu’n rhan o derfysg yn y DU ym misoedd Mehefin ac Awst.
Addawodd Syr Keir Starmer i beidio â gadael i “leiafrif o labystiaid treisgar, hiliol ddychryn ein cymunedau” cyn addo y byddai yn “llym” ar fudo anghyfreithlon.
Aeth unrhyw beth o’i le?
Galwodd Keir Starmer am ddychwelyd “sausages” o Gaza yn hytrach na “hostages” gan ddenu ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol.
Inline Tweet: https://twitter.com/Exploding_Heads/status/1838571779058491721
Yn ddiweddarach, cafodd Keir Starmer ei heclo gan ymgyrchydd am Gaza.
Dywedodd: “Dw i’n credu fod gan y dyn yma bas i gynhadledd 2019. Rydan ni wedi newid y blaid. Dyma pam fod gyda ni lywodraeth Lafur.”
Beth oedd yr ymateb?
Dywedodd yr ymgeisydd am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, Robert Jenrick nad oedd “unrhyw” sylwedd y tu ôl i’r “rhethreg”.
“Sut all Starmer fod heb unrhyw gynllun i dyfu'r economi, diwygio'r GIG neu reoli a lleihau mewnfudo ar ôl 14 mlynedd?
“Mae'n ymddangos ei fod y cwffio mewnol ac anhrefn yn Downing Street yn cael ei sylw i gyd."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, mai’r unig dro i Gymru gael ei grybwyll oedd wrth gyfeirio at fuddugoliaethau Llafur yn yr Etholiad Cyffredinol.
“Maen nhw’n cymryd pleidleisiau'r Cymry a’n rhoi dim yn ôl,” meddai.
“Fe wnaeth o ddilyn yr un sgript y mae’r Torïaid wedi’i gwthio ers 14 mlynedd: gosod baich y ‘penderfyniadau anodd’ ar y rhai sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.”
Llun gan: Stefan Rousseau / PA.